Prifysgol Bangor yn cynnal Dosbarthiadau Meistr Cerdd yn Tsieina
Bydd Iwan Llewelyn Jones, academydd o'r Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau, Prifysgol Bangor, yn ymweld â Tsieina yn ddiweddarach y mis hwn i berfformio a chynnal dosbarthiadau meistr i fyfyrwyr cerddoriaeth yn Beijing, Shanghai a Guangzhou.
Mae Iwan Llewelyn-Jones wedi ymsefydlu'n gadarn fel un o bianyddion gorau ei genhedlaeth. Graddiodd o Brifysgol Rhydychen a'r Coleg Cerdd Brenhinol ac mae wedi perfformio yn nifer o neuaddau cyngerdd enwocaf y byd megis, Neuadd Wigmore a Neuadd y Frenhines Elizabeth yn Llundain, yn ogystal â Thŷ Opera Sydney a Gewandhaus Leipzig. Mae hefyd wedi cyflwyno dosbarthiadau meistr a beirniadu cystadlaethau ym mhob un o brif conservatories Prydain, gyda llawer o'i fyfyrwyr yn graddio o'r Coleg Cerdd Brenhinol, yr Academi Gerdd Frenhinol, prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt, yn ogystal â Durham, Kings, Caerdydd a Manceinion.
Ar 20 Hydref 2018, bydd Llewelyn Jones yn cynnal Dosbarth Meistr Prifysgol Bangor yn Neuadd Steinway fawreddog Beijing. Bydd y rhai fydd yn cymryd rhan yn cael cyfle i berfformio i Llewelyn Jones a derbyn sylwadau ac arweiniad manwl ganddo. Bydd hefyd yn perfformio cyngerdd byr i gyfranogwyr a selogion Neuadd Steinway.
Cynhelir digwyddiad tebyg gan Brifysgol Normal Shanghai ar 24 Hydref 2018. Mae SHNU yn un o bartneriaid agos Prifysgol Bangor yn Tsieina ac yn anfon nifer o fyfyrwyr i astudio Cerddoriaeth yno bob blwyddyn.
Daw taith Llewelyn Jones i ben yn Guangzhou. Bydd dosbarthiadau meistr yn cael eu cynnal yn ystafell arddangos Steinway yn Guangzhou ar 27 Hydref 2018.
Dywedodd yr Athro Chris Collins, Pennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau:
"Mae hwn yn gyfle gwych i Brifysgol Bangor dynnu sylw nid yn unig at ei Hysgol Gerddoriaeth wych, ond hefyd at safon eithriadol uchel ei staff dysgu."
Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2018