Prifysgol Bangor yn cynnig rhywbeth i bawb yn Eisteddfod yr Urdd - o gloddio archeolegol i arbrofion cemegol
Bydd plant a’u teuluoedd yn heidio i Eisteddfod yr Urdd Meirionydd 2014 yn y Bala yn ystod gwyliau'r Sulgwyn (Llun 26 - Sadwrn 30 Mai).
Yng nghanol bwrlwm y cystadlu, bydd digon i’w wneud ar y maes, ac mae Prifysgol Bangor, un o brif noddwyr Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 2014, wedi sicrhau bod digonedd o weithgareddau ar ei stondin i ddifyrru plant o bob oedran.
Drwy’r wythnos, caiff unrhyw un droi ei law at weithgareddau Hwyl Gwyddoniaeth. Bydd y rhain yn cynnwys gweithgareddau cemeg, profion seicoleg, arddangosfa bywyd môr ac adeiladu lleidr trydan, sef cylchedd trydan syml sy’n cymryd yr egni sy'n weddill mewn batris ‘marw’ a'i ddefnyddio i oleuo LED. Ac os bydd gennych ddigon o egni dros ben, yna beth am ei ddefnyddio ar feic ymarfer sy'n siarad Cymraeg?
Bydd gweithgareddau celf a chrefft, stori a chân, posau a phaentio wynebau i ddiddanu’r rhai iau dan arweiniad yr Ysgol Addysg.
Os ydych am ddod i'r Eisteddfod ddydd Mercher neu ddydd Gwener, yna gallwch roi tro ar fod yn archeolegydd a chloddio am drysorau Cymru a dysgu mwy am fywyd y Celtiaid, y Rhufeiniaid a thywysogion Cymru gyda’r Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg.
Cerddoriaeth fydd ar yr amserlen ddydd Iau, gyda gweithdy cerddoriaeth glasurol, gweithdy cerddoriaeth werin a dosbarth meistr telyn gydag Elinor Bennett. Felly, dewch draw i gymryd rhan neu dewch draw i wrando ar y gerddoriaeth. Os nad yw hynny'n mynd â'ch bryd chi, dewch draw i ofyn cwestiynau i banel beirniaid Cân i Gymru.
Brynhawn Gwener am 1 o'r gloch, bydd Cynhyrchydd Creadigol Pontio, Shari Llewelyn, yn arwain gweithdy celf 3D i edrych ar yr adeilad eiconig newydd yng nghanol Bangor. Bydd Pontio, canolfan celfyddydau ac arloesi newydd Prifysgol Bangor, yn agor fis Medi 2014.
Meddai Sioned Hughes, Swyddog Cyswllt Ysgolion Prifysgol Bangor:
“Rydym yn edrych ymlaen at Eisteddfod yr Urdd pob blwyddyn ac yn falch o groesawu myfyrwyr y dyfodol i’n stondin! Mae’n wych cael cyfle i gyflwyno’r gwyddorau a phynciau eraill i blant mewn ffordd hwyliog a difyr, a hynny tu hwnt i gyd-destun y dosbarth a’r ysgol.”
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mai 2014