Prifysgol Bangor yn cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Cynnal Cymru
Mae Prifysgol Bangor wedi cyrraedd rownd derfynol gwobrau Cynnal Cymru 2016. Bydd gwobrau 2016 yn dod â dros 150 o arweinwyr busnes, arloeswyr, arloeswyr cymunedol, addysgwyr a’u timau at ei gilydd, ac maent yn agored i unrhyw fusnes, sefydliad neu unigolyn a all ddangos effaith ac ymagwedd gadarnhaol at ddatblygu cynaliadwy yn eu busnes neu gymuned.
Gan adeiladu ar lwyddiant y Gwobrau dechreuol a lansiwyd yn 2015, bydd y beirniaid yn chwilio am enghreifftiau eithriadol o unigolion a sefydliadau sy’n helpu i gyflawni saith nod cenedlaethol Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gan gyfrannu at gynaliadwyedd bywyd amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd yng Nghymru.
Mae Dr Einir Young, Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd y Brifysgol, wrth ei bodd eu bod wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd:
“Mae ychydig dros flwyddyn ers i’r Lab Cynaliadwyedd gael ei sefydlu fel canolbwynt corfforaethol ar gyfer cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Bangor, yn gweithredu fel canolbwynt a chatalydd i ddod â chynaliadwyedd i fyw ym mhob agwedd ar yr hyn yr ydym yn ei wneud drwy ein gwaith ymchwil, dysgu ac addysgu, ac ymgysylltu â’r cyhoedd. Mae’n ddyddiau cymharol gynnar ar ein taith tuag at ddod yn Brifysgol Gynaliadwy felly roeddwn wrth fy modd i ddarganfod ein bod wedi cyrraedd y rownd derfynol.”
Caiff pob un o’r naw enillydd eu datgan yn ystod y Seremoni Wobrwyo ar 17 Tachwedd yng Nghaerdydd.
Pleidleisiwch i helpu Prifysgol Bangor i ennill y categori “Sefydliad Cynaliadwy AU/AB” http://www.cynnalcymru.com/cy/online-vote/
Dyddiad cyhoeddi: 30 Medi 2016