Prifysgol Bangor yn dal gyda cyfle i gyrraedd y rownd gyn-derfynol ar University Challenge
Ar BBC 2 Cymru neithiwr gwelwyd tîm Prifysgol Bangor yn cymryd rhan yn eu trydedd rownd o'r gystadleuaeth University Challenge.
Ar ôl trechu Prifysgol Durham a Phrifysgol St Andrews yn y rowndiau blaenorol, roedd tîm Prifysgol Bangor yn wynebu University College London (UCL) yn y rownd gogynderfynol. Gwaetha'r modd, ni lwyddodd y tîm, sef Nina Grant, (Capten), Simon Tomlinson, Mark Stevens ac Adam Pearce, i gael buddugoliaeth y tro yma. Ond, yn ffodus, mae ganddynt gyfle arall i fynd ymlaen i'r rownd gynderfynol os llwyddant i ennill eu dwy ornest nesaf.
Dechreuodd y tîm yn wych ac ar un adeg roeddent ar y blaen o 100-0, gan ateb ar bynciau'n amrywio o ffiseg i farddoniaeth a hyd yn oed basborts. Ond yn araf llwyddodd tîm UCL i ennill tir ac roedd y ddwy ochr yn hynod agos nes i'r tîm o Lundain ennill o 190 - 125 yn y diwedd.
Tybed fydd yna ornest lawn tyndra'n disgwyl cefnogwyr Prifysgol Bangor yn y sioe nesaf? Dangosir y rhaglen nesaf ar 11 Mawrth am 8.00pm ar BBC 2 Cymru.
Meddai Antony Butcher, Llywydd Undeb y Myfyrwyr: "Mae'n ardderchog gweld Bangor wedi mynd ymlaen mor bell â hyn yn y gyfres yma - yr unig brifysgol Gymreig i wneud hynny. Maen nhw'n sicr wedi dod â chlod i Fangor."
Dyddiad cyhoeddi: 12 Chwefror 2013