Prifysgol Bangor yn dal i fuddsoddi yn y profiad a gaiff myfyrwyr
Mae Prifysgol Bangor yn cyhoeddi ei bod yn creu 11 o swyddi newydd ar draws ei hystod o wasanaethau cefnogi myfyrwyr. Darperir staff ychwanegol mewn meysydd fel lles myfyrwyr a chefnogaeth llyfrgell, a gyllidir fel rhan o ymrwymiad y Brifysgol i fyfyrwyr dan nawdd ei chynllun ffioedd newydd. Rhoddwyd ystyriaeth i roi’r manteision gorau posibl i fyfyrwyr ar draws pob disgyblaeth ac o bob cefndir.
Disgrifiodd Maria Graal, Cyfarwyddwr Profiad Myfyrwyr, y buddsoddiad uwch hwn fel ‘rhan o’n dull holistig o ddatblygu’r profiad myfyrwyr. Rydym wedi ymrwymo i helpu ein myfyrwyr gyda’r trawsnewid i fyd Prifysgol, cefnogi eu cynnydd academaidd, a’u paratoi at lwyddiant ar ôl graddio.’
Mae cynlluniau newydd yn cynnwys lansio Canolfan Sgiliau Astudio newydd a datblygu ymhellach Gymhwyster Cyflogadwyedd arloesol Bangor, yn cynnwys mwy o ddarpariaeth ar gyfer profiad gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli. Fe fydd cynnydd hefyd yn y gallu i weithredu ym maes iechyd a lles myfyrwyr. Bydd y swyddi newydd yn helpu’r Brifysgol gyflawni rhai o amcanion allweddol ei Strategaeth Cyfoethogi Profiad Myfyrwyr.
Croesawyd y newyddion gan Yr Athro Carol Tully, Dirprwy Is-Ganghellor (Myfyrwyr): ‘Ers blynyddoedd lawer bellach mae gan Brifysgol Bangor enw da rhagorol am gefnogi myfyrwyr. Rydym yn ei weld yn faes blaenoriaeth o bwys ac am hynny rydym yn cryfhau ein gwasanaethau’n gyffredinol.’
Gellir cael gwybodaeth am y swyddi yma.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mai 2012