Prifysgol Bangor yn dathlu Awr Ddaear
Mae’r Brifysgol yn helpu i adeiladu dyfodol disgleiriach trwy gefnogi Awr Ddaear WWF. Mae hwn yn ddigwyddiad trawiadol a symbolaidd lle diffoddir y goleuadau ac mae’n tynnu sylw’r byd at ein planed a’r angen i’w gwarchod.
Ar 28 Mawrth, am 8.30yh, bydd Prifysgol Bangor yn ymuno â miloedd o adeiladau a strwythurau eiconig ledled y byd, o Bont Harbwr Sydney i Times Square yn Efrog Newydd, wrth iddynt ddangos eu cefnogaeth. Mae arddangosiad unigryw Awr Ddaear o dywyllwch wedi troi’n ddigwyddiad byd-eang, gyda channoedd o filiynau o unigolion yn dod ynghyd bob blwyddyn. Yn 2014 bu 162 o wledydd a 7000 o drefi a dinasoedd, niferoedd sy’n record, yn cymryd rhan yn y dathliad mwyaf yn y byd i’n planed.
Y llynedd yng Nghymru, amcangyfrifir bod mwy na 400,000 o bobl wedi cymryd rhan, gan gyhoeddi neges unedig o gefnogaeth. Roedd yr adeiladau a’r strwythurau amlwg a gymerodd ran yng Nghymru’n cynnwys y Senedd ym Mae Caerdydd, Castell Caernarfon, Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth a Phont Gludo Casnewydd. Roeddent ymysg 200 o adeiladau a strwythurau mwyaf eiconig y Deyrnas Unedig a dywyllwyd, fel Big Ben a Chastell Caeredin. Cofrestrodd 235 o ysgolion yng Nghymru â’r ymgyrch a dangosodd Aelodau Cynulliad Cymru o bob plaid eu cefnogaeth.
I ddathlu Awr Ddaear 2015, byddwn yn diffodd y llifoleuadau ar Brif Adeilad y Brifysgol am 8.30yh ar 28 Mawrth am yr awr, ac yn annog ein staff a myfyrwyr i ymuno drwy gymryd y camau y gallant.
"Rydym yn falch i gymryd rhan yn Awr Ddaear ac yn gyffrous ynghylch bod yn rhan o ddigwyddiad mor fawr sy’n ysbrydoli cymaint. Gall pawb wneud gwahaniaeth i helpu i warchod ein planed ac mae gennym ni i gyd ran allweddol i’w chwarae," meddai Ricky Carter, Rheolwr yr Amgylchedd Prifysgol Bangor.
Dywedodd Anne Meikle, Pennaeth WWF Cymru,
“Rydym wrth ein bodd y bydd Prifysgol Bangor yn cymryd rhan yn Awr Ddaear eleni ac yn gobeithio y bydd yn ysbrydoli llawer o bobl eraill i gymryd rhan hefyd. Drwy gymryd un cam syml, sef diffodd eich goleuadau, byddwch yn ymuno â miliynau o bobl o bob cwr o’r byd yn y dathliad arbennig hwn.”
Gall pawb gofrestru ar gyfer Awr Ddaear WWF 2015. I gael mwy o wybodaeth ac i gofrestru ewch i wwf.org.uk/earthhour
Dyddiad cyhoeddi: 24 Chwefror 2015