Prifysgol Bangor yn Dathlu Diwrnod Ewrop 2019
Ar 9 Mai bydd y Brifysgol, ynghyd â llawer iawn o sefydliadau eraill ar draws y DU ac Ewrop, yn nodi Diwrnod Ewrop gyda nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau. Mae’r Undeb Ewropeaidd yn dathlu’r diwrnod hwn i nodi cyhoeddi Datganiad Schumann a wnaed yn 1950, sy’n cael ei ystyried fel un o’r camau cyntaf swyddogol yng nghreadigaeth yr Undeb fel y mae hi heddiw.
Yn unol â’r arfer, codir baner y UE uwch ben tŵr y brifysgol, ond eleni, bydd James Wilson o gwmni pysgotwyr cregyn gleision lleol, sef un o’n partneriaid diwydiannol sydd wedi cynnal projectau UE ar y cyd gyda’r Ysgol Gwyddorau Eigion, yn hwylio cwch pysgota’r cwmni, y Mare Gratia, o ddociau Penrhyn am 12.00pm i Ganolfan Môr Cymru ym Mhorthaethwy a bydd lluniaeth ysgafn i’r teithwyr. Bydd y cwch yn hedfan baner yr UE yn ystod y daith yno. (Cysylltwch ag Esther Howie e.howie@bangor.ac.uk am ragor o wybodaeth).
Hefyd ar y diwrnod, bydd y projectau KESS2 a KESS2 Dwyrain yn dathlu’r achlysur gyda derbyniad te a chacennau yn y Ganolfan Rheolaeth, rhwng 2pm a 4pm. Croeso cynnes i bawb. Mae Prifysgol Bangor yn arwain KESS2 a KESS2 Dwyrain ar ran y sector Addysg Uwch yng Nghymru; amcan y project yw cefnogi sefydliadau ledled y wlad drwy gynnig projectau Doethurol a Gradd Meistr Ymchwil ar y cyd â’r sefydliadau hynny. Ariannwyd KESS2 a KESS2 Dwyrain drwy’r Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2019