Prifysgol Bangor yn Dathlu'r Wythnos Raddio
Mae staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor yn dathlu wythnos arall o seremonïau graddio'r brifysgol yr wythnos hon (15-19 Gorffennaf 2019).
Bydd y brifysgol yn croesawu ffrindiau a theuluoedd myfyrwyr i ddeg seremoni dros bum niwrnod i gydnabod llwyddiannau graddedigion newydd y brifysgol.
Hefyd, byddwn yn croesawu deg unigolyn sy'n derbyn Cymrodoriaethau er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor. Mae Cymrodoriaethau er Anrhydedd yn fodd i'r brifysgol roi cydnabyddiaeth i unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol yn eu dewis faes. Dewisir y cymrodyr o blith pobl sy'n gweithio yng Nghymru neu sydd â chysylltiad â'r brifysgol, a byddant yn ymuno â'r gwahanol seremonïau graddio drwy gydol yr wythnos.
Dywedodd yr Athro Graham Upton, Is-ganghellor Dros Dro Prifysgol Bangor:
“Mae Seremonïau Graddio'r brifysgol yn benllanw ac yn ddathliad o waith caled iawn y myfyrwyr sy'n graddio. Fel aelodau staff y brifysgol, rydym yn ymfalchïo yng nghyraeddiadau ein myfyrwyr, a'r modd y mae pob un ohonynt wedi tyfu mewn gwahanol ffyrdd ar hyd eu taith bersonol o addysg a phrofiad. Gobeithiwn y bydd y gwaith dysgu, ynghyd â'r sgiliau a'r cyfeillgarwch maent wedi'u meithrin ym Mhrifysgol Bangor, yn aros gyda nhw drwy gydol eu gyrfaoedd ac i'r dyfodol.”
Ychwanegodd:
“Rwy'n ymfalchïo yn y ffaith bod Prifysgol Bangor yn gwobrwyo ac yn cydnabod cyfraniadau sylweddol ein Cymrodyr er Anrhydedd newydd. Mae pob un ohonynt wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i'r celfyddydau, i fyd busnes, i'r byd academaidd neu i'n cymdeithas ehangach, ac mae eu llwyddiannau yn achos dathlu. Gobeithio y byddant yn ysbrydoliaeth i'n myfyrwyr sy'n graddio, ac yn eu hannog i ymdrechu i gyflawni eu hamcanion, beth bynnag y bônt.”
Dyma’r Cymrodyr er Anrhydedd:
Catrin Stevens, awdur llawrydd, sydd wedi cyfrannu i fywyd Cymru trwy ei gwaith cyhoeddedig, ei gweithgarwch a'i hymrwymiad i'r iaith Gymraeg a'i diwylliant.
Karin Lochte, cyn-fyfyriwr sy'n adnabyddus am ei hymrwymiad i wyddor môr ryngwladol ac, yn benodol, am ei gwaith arweiniol yn Sefydliad Alfred Wegener ac, yn fwyaf diweddar, fel aelod o Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol;
Yr Athro Liao, academydd a ddangosodd ymrwymiad a gwasanaeth eithriadol i addysg uwch, yn cynnwys rhyngwladoli addysg yn y Central South University of Forestry and Technology, Changsha, Tsieina a Choleg Bangor Tsieina;
Angela Gardner, sydd wedi dangos ymrwymiad angerddol i'w phroffesiwn ac yn benodol o ran adnabod a datblygu doniau arwain, ac sydd hefyd wedi gwneud cyfraniad sylweddol at hyrwyddo amrywiaeth yn y gweithle;
Chris Roberts, arloeswr ac eiriolwr yn y mudiad dinasyddiaeth o fewn dementia a ffigwr blaenllaw yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Mae wedi sefydlu cyfres o fentrau arloesol ar draws cymunedau lleol a rhyngwladol pobl sy'n byw gyda dementia;
Rhian Davies, a raddiodd ym Mangor, sydd drwy gydol ei gyrfa wedi dangos ymrwymiad a gwasanaeth o'r radd flaenaf i'w phroffesiwn, yn fwyaf diweddar drwy ei harweiniad gyda Gŵyl Gregynog a'i gwaith yn adfer repertoire y gyfansoddwraig Morfydd Owen;
Y Barnwr Meleri Tudur, Dirprwy Lywydd Siambr Addysg Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Tribiwnlys Haen Gyntaf. Mae'r Barnwr Tudur yn gyfrifol am achosion yn ymwneud ag Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd, Safonau Gofal a Rhestri Iechyd Sylfaenol yn y Siambr honno.
Elan Closs Stephens DBE, sydd wedi dangos ymrwymiad a gwasanaeth eithriadol i'r diwydiannau creadigol, yn arbennig yng Nghymru, yn fwyaf diweddar fel aelod o Fwrdd Unedol y BBC lle mae'n cynrychioli buddiannau Cymru;
Yr Athro Gareth Wyn Jones, sydd â chysylltiad hir â'r brifysgol fel myfyriwr ac ymchwilydd dan yr Athro Charles Evans, fel darlithydd ac un o sylfaenwyr ac arweinydd y Ganolfan Astudiaethau Tir Cras ym Mangor;
ac Arthur Edward (Johnny) Johnston, cyn-fyfyriwr ac arbenigwr o fri rhyngwladol; mae ei gyfraniad drwy gydol gyrfa faith wedi bod yn allweddol i feithrin dealltwriaeth o brosesau sylfaenol mewn ffrwythlondeb pridd a maeth cnydau, ac wedi creu rhan helaeth o'r sylfaen i'r ymchwil i ansawdd pridd ac amaethyddiaeth gynaliadwy.
Mae'r brifysgol yn awyddus i gadw mewn cysylltiad â'i chyn-fyfyrwyr a'i chymuned fawr o raddedigion ar draws pedwar ban byd. Dros y blynyddoedd diweddar mae'r brifysgol wedi cyflwyno gwobr Alumnus y Flwyddyn yn cydnabod llwyddiannau graddedigion y brifysgol, yn broffesiynol ac yn bersonol, a thynnu sylw arbennig at y rhai sydd wedi dewis parhau i ymwneud â'u hen brifysgol a rhoi'n ôl iddi, naill ai trwy wasanaeth, dyngarwch, neu mewn rhai achosion y ddau. Cyflwynir gwobr eleni i Frankie Hobro, perchennog Sw Môr Môn, a enillodd ei MSc mewn Gwarchod Amgylchedd y Môr o'r Ysgol Gwyddorau Eigion. Mae Sw Môr Môn a'r Ganolfan Adnoddau Môr yn gyfleuster addysg ac ymchwil a reolir yn amgylcheddol, yn ogystal â bod yn atyniad i dwristiaid.
Darllenwch ein newyddion a proffiliau graddio yma: https://www.bangor.ac.uk/graduation/newyddion
Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2019