Prifysgol Bangor yn dawnsio i godi arian
Ar y 17eg o Dachwedd, cafodd noson arbennig ei chynnal gan y Gymdeithas Ddawns ym Mhrifysgol Bangor. Cynhaliwyd noson Strictly Come Dancing i godi arian at yr elusen Plant Mewn Angen.
Fel yn y rhaglen boblogaidd ar y BBC, roedd y dawnswyr “proffesiynol” sef hyfforddwyr dawns sy’n perthyn i’r gymdeithas yn ceisio addysgu’r “amaturiaid” o glybiau a chymdeithasau eraill ledled y Brifysgol; i gyd i godi arian at achos da ac i gael ychydig o hwyl.
Roedd y trefnydd, Victoria Kirk, myfyrwraig Iaith Saesneg wedi cael nifer o glybiau a chymdeithasau eraill megis Storm FM, y Clwb Canŵio, B.E.D.S a’r Gymdeithas Ieithyddiaeth i gymryd rhan yn y noson.
Yn ystod y perfformiadau, fe ddawnsiodd y cystadleuwyr y Cha Cha i “Gangnam Style”, a’r quickstep i “I want to be like you”, ac yn annhebyg i’r gyfres deledu cafodd perfformiadau Hip-Hop a Bollywood eu perfformio hefyd. Yr uchafbwynt efallai oedd y Bale, lle'r oedd dawnswyr gwrywaidd yn dawnsio i gan One Direction. Dywedodd Victoria,
“Dim ond pythefnos oedd yr “amaturiaid” wedi ei gael i ymarfer ac roedd rhaid iddyn nhw i gyd berfformio o flaen y gynulleidfa a’r beirniaid.”
Wedi’r perfformiadau gan yr “amaturiaid”, fe aeth y dawnswyr “proffesiynol” i’r llwyfan i ddangos i’r gynulleidfa sut mae dawnsio go iawn.
Tuag at ddiwedd y sioe, roedd y beirniaid a’r gynulleidfa yn dewis eu ffefryn wrth helpu eu hunain i’r amrywiaeth o gacennau a’r lluniaeth ysgafn a oedd wedi ei ddarparu gan y Gymdeithas Ddawns, i’w gwerthu fel ffordd ychwanegol o godi arian.
BEDS enillodd y gystadleuaeth a cafodd cyfanswm o £250 ei godi tuag at yr elusen Plant Mewn Angen.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Rhagfyr 2012