Prifysgol Bangor yn ddathlu Diwrnod S’mae – Diwrnod i Ddathlu’r Gymraeg
Dydd Mercher, 15 Hydref, yw ‘Diwrnod S’mae’, diwrnod cenedlaethol i ddathlu a codi ymwybyddiaeth ynglŷn â’r iaith Gymraeg.
Mi fydd Prifysgol Bangor yn cefnogi a hyrwyddo’r diwrnod mewn partneriaeth â Menter Iaith Bangor ynghyd a sefydliadau a mudiadau eraill ym Mangor drwy gynnig cyfres o weithgareddau a digwyddiadau er mwyn gwneud y Gymraeg yn fwy gweladwy a chyhoeddus. Gyda'r nod o ddangos bod yr iaith yn perthyn i bawb ac y gallwn i gyd ei defnyddio.
Thema gyffredinol y diwrnod fydd 'Rhowch gynnig arni!'. A pha ffordd well i ddechrau na thrwy ddweud 'S'mae? Bydd Diwrnod S’mae yn gyfle euraidd i atgyfnerthu’r gefnogaeth eang sydd ym Mangor i'r Gymraeg a dathlu’r amrywiaeth o ffyrdd y byddwn ni’n cyfarch ein gilydd yn Gymraeg yn ein cymunedau. Bydd hefyd yn gyfle i gefnogi ac annog ymdrechion pawb sydd wrthi yn dysgu Cymraeg.
Meddai’r Athro Jerry Hunter, Dirprwy Is-ganghellor “Rydym ni ym Mhrifysgol Bangor yn ymfalchïo yn y ffaith bod gennym ddiwylliant Cymraeg bywiog, ein bod ni’n arwain yn genedlaethol o ran darparu addysg uwch cyfwng Cymraeg a sicrhau bod gennym Gynllun Iaith sy’n gwarchod ac yn hybu’r Gymraeg yn ein sefydliad. Felly, gadewch i ni gydnabod y diwrnod gan gofio hefyd nad rhywbeth ar gyfer un diwrnod yn unig yw’r Iaith Gymraeg, ond yn rhan ganolog o fywyd ein Prifysgol ein dinas a’n gwlad bob dydd o’r flwyddyn.”
Dyddiad cyhoeddi: 7 Hydref 2014