Prifysgol Bangor yn dechrau ymchwil mewn Rhith Ganolfannau ar y Cyd â Brasil a Tsiena i wella defnydd nitrogen mewn amaethyddiaeth
Mae amaethyddiaeth yn wynebu problem sylweddol: yr angen i sicrhau cyflenwad digonol o fwyd i boblogaeth gynyddol gan ddiogelu'r amgylchedd yr un pryd. Tra bo defnyddio gwrtaith nitrogen wedi helpu i gynyddu cynhyrchu bwyd, mae hyn wedi bod ar draul yr amgylchedd, yn arbennig mewn gwledydd fel Tsiena a Brasil sy'n datblygu'n gyflym. Cydnabyddir bod angen i gynhyrchu bwyd fod yn fwy cynaliadwy. Er enghraifft, mae cynllun pum mlynedd presennol Llywodraeth Tsiena wedi gosod targed caeth na ddylid cael unrhyw gynnydd mewn defnyddio gwrtaith erbyn 2020. Felly, mae'n hanfodol y llwyddir i gael cynnydd mewn cnydau gyda llai o ddibyniaeth ar gemegau, a'u defnyddio'n fwy effeithlon.
Nid yw hyd at ddwy ran o dair o'r gwrtaith nitrogen a ddefnyddir gan ffermwyr ar gnydau'n cael eu ddefnyddio gan y planhigion eu hunain, sy'n achosi problemau amgylcheddol sylweddol, yn cynnwys asideiddio pridd a llygru aer a dŵr. Er mwyn cyflymu ffyrdd o wella defnyddio gwrtaith nitrogen yn effeithiol a lleihau ei effeithiau amgylcheddol, mae partneriaethau newydd wedi cael eu sefydlu mewn dwy Rith Ganolfan Ymchwil rhwng ymchwilwyr yn y DU a Tsiena, a'r DU a Brasil. Arweinir yr UK-China Centre for Improved Nitrogen Agronomy (CINAg) gan Rothamsted Research and China Agricultural University, ac arweinir yr UK-Brazil Centre on Integrated Plant-Soil Approaches, NUCLEUS, gan Brifysgol Nottingham a Phrifysgol Sao Paulo. Mae Prifysgol Bangor yn un o sawl sefydliad yn y DU sy'n ymwneud â'r ddwy rhith ganolfan hyn, a gyllidir gan Gronfa Newton, drwy The Biotechnology and Biological Sciences Research Council (BBSRC) a The Natural Environment Research Council (NERC) yn y DU.
Mae Prifysgol Bangor wedi cydweithio â sefydliadau ymchwil yn Tsieina a Brasil am flynyddoedd lawer, e.e. trwy efrydiaethau PhD ar y cyd, projectau ymchwil, ac aelodau o staff Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth yn cael eu penodi fel Athrawon ar Ymweliad yn rhai o'u sefydliadau ymchwil.
Bydd y rhaglen ymchwil newydd yn edrych ar sut y gellir defnyddio nitrogen yn fwy effeithlon drwy ddefnyddio nwyddau gwrtaith newydd, gwell technolegau i brosesu slyri anifeiliaid, defnyddio synwyryddion arloesol gyda phridd a phlanhigion, ac arbrofi gyda mathau newydd mwy effeithlon o gnydau a laswellt. Gwneir llawer o'r ymchwil hon yng Nghanolfan Ymchwil Henfaes Prifysgol Bangor, a bydd y brifysgol yn derbyn £950,000 dros y tair blynedd nesaf i gefnogi'r projectau. Yn y pen draw, bydd yr ymchwilwyr yn rhoi gwybod i ffermwyr yn Tsieina a Brasil, trwy ddogfennau cyfarwyddo a systemau cefnogi gwneud penderfyniadau, am strategaethau sy'n eu galluogi i gynyddu cynnyrch amaethyddol mewn ffordd gynaliadwy.
Meddai'r Athro Dave Chadwick, sy'n arwain cyfraniad Bangor i'r Ganolfan y DU-Tsieina: "Er gwaethaf yr amrywiaeth mewn systemau ffermio rhwng y gwahanol wledydd, mae'n amlwg ein bod i gyd yn rhannu'r un nod o wella defnyddio nitrogen mewn ffordd effeithlon. Trwy rannu ein harbenigedd, ein dulliau o weithio a chyfleusterau ymchwil, ein nod yw sefydlu dulliau o reoli defnyddio nitrogen mewn ffordd fwy cynaliadwy. Ymhellach, mae'r Canolfannau'n rhoi cyfleoedd unigryw i gyfnewid staff, sy'n golygu y gallwn hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr."
Erbyn hyn mae'r ddwy Rith Ganolfan Nitrogen wedi'u lansio, yn Beijing a Sao Paolo, ac meddai'r Athro Davey Jones, sy'n arwain cyfraniad Bangor i'r Ganolfan DU-Brasil: "Roedd yn amlwg o'r cyfarfodydd cychwynnol hyn bod yna ymchwil wych yn digwydd yn barod o fewn y sefydliadau partner. Mae'r Rhith Ganolfannau'n rhoi cyfle ardderchog i adeiladu ar lwyddiant unigol y gwahanol grwpiau ymchwil a chydlynu'r ymdrech ymchwil ryngwladol mewn ymchwil nitrogen. Rydym yn edrych ymlaen at hyrwyddo'r ymchwil yn y Rhith Ganolfannau hyn, a chyfuno ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth i ddatblygu ystod o strategaethau ac atebion ymarferol i wella ymchwil yn Tsieina, Brasil a Phrydain. Elfen bwysig a gaiff sylw hefyd gan y Canolfannau yw sut orau i drosglwyddo gwybodaeth i ffermwyr a rhai sy'n eu cynghori. Felly byddwn yn edrych ar ddefnyddio Apps ffôn a chyfleusterau ar-lein i'w helpu i wneud y penderfyniadau gorau pan ddaw'n fater o reoli maetholion.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mehefin 2016