Prifysgol Bangor yn derbyn ceisiadau ar gyfer rhai cyrsiau Meistr yn cychwyn Ionawr 2014
Oherwydd galw am lefydd, mae’r Brifysgol yn cynnig mynediad mis Ionawr ar gyfer rhai cyrsiau ôl-radd yn 2014.
“Rydym yn falch i allu cynnig derbyniadau mis Ionawr ar rai o’n rhaglenni Meistr mwyaf poblogaidd”, meddai’r Athro Phil Molyneux, Deon y Coleg Busnes, y Gyfraith, Addysg a Gwyddorau Cymdeithas. “Bydd y system derbyniadau deublyg hon yn cynnig hyblygrwydd nid yn unig i ymgeiswyr rhyngwladol sydd rhaid mynd trwy brosesau teitheb cymhleth, ond hefyd i ymgeiswyr sydd angen cadarnhau trefniadau ariannol neu deuluol cyn ymrwymo i astudiaethau ôl-radd.”
Mae’r Brifysgol nawr yn derbyn ceisiadau ar gyfer y cyrsiau canlynol yn cychwyn Ionawr 2014:
Ysgol Busnes Bangor
MA Islamic Banking and Finance
MBA Islamic Banking and Finance
MSc International Banking and Development Finance
MSc Islamic Banking and Finance
MA Business with Consumer Psychology
Ysgol Busnes Bangor – Canolfan Llundain
MA Islamic Banking and Finance
MBA Islamic Banking and Finance
MSc Islamic Banking and Finance
MSc International Banking and Development Finance
Ysgol y Gyfraith
LLM International Intellectual Property Law
LLM International Law – specialising in European Law
LLM International Law – specialising in Global Trade Law
LLM International Commercial and Business Law
Ysgol Addysg
Ysgol Gwyddorau Cymdeithas
MA Comparative Criminology and Criminal Justice
MA Policy Research and Evaluation
MA Social Research and Social Policy
Dydd Iau 23 Ionawr 2014 bydd dyddiad cychwyn y rhaglenni yma (yn cynnwys rhaglenni Canolfan Llundain). Mae’r rhain yn rhaglenni llawn amser bydd yn rhedeg am 12 mis (Ionawr-Ionawr).
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Llun 20 Ionawr 2014.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Hydref 2013