Prifysgol Bangor yn derbyn cyllid i adeiladu seilwaith ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol 2018-2020
Mae Grwpiau Ymchwil yn Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR) wedi derbyn symiau sylweddol o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r buddsoddiad hwn yn cydnabod rhagoriaeth ymchwil iechyd yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor. Mae'r Sefydliad yn dod ag arbenigwyr at ei gilydd o ystod eang o feysydd clinigol a gwyddonol o bob rhan o'r brifysgol i ddelio â'r problemau pwysicaf ym maes gofal iechyd. Bydd yr arian hwn yn sicrhau y bydd seilwaith ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol cryf yn parhau yng ngogledd Cymru, gan helpu i ddenu'r meddygon gorau a'r proffesiynau gofal iechyd gorau i'r rhanbarth.
Wrth groesawu'r cyllid gan Lywodraeth Cymru, dywedodd yr Athro Paul Brocklehurst ar ran BIHMR: "Mae'r cyllid i'r Grwpiau Ymchwil hyn yn tanlinellu cwmpas cyffredinol yr ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol a gynhelir yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor. Gydag arloesi i gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia, treialon ymyriadau pwysig, ymchwil sylfaenol i gost-effeithiolrwydd gwasanaethau gofal iechyd, meddyginiaethau ac ymyriadau iechyd cyhoeddus, ein bwriad yw datblygu ein cryfder ymhellach i wella iechyd pobl Cymru a thu hwnt."
Ynghyd â'r tîm yn yr Uned Treialon Clinigol (NWORTH), llwyddodd yr Athro Brocklehurst, Dr Zoë Hoare a Ms Jean Ryan i sicrhau £733,000 i gynyddu eu portffolio ymchwil ac adeiladu ar eu perfformiad cryf yn profi effeithiolrwydd triniaethau a gwasanaethau gofal iechyd newydd. Byddant yn parhau i gefnogi staff meddygol a gofal iechyd ar draws gogledd Cymru i ddatblygu eu cynigion ymchwil i fod yn geisiadau grant llwyddiannus.
Bu'r Athro Rhiannon Tudor Edwards a Dr Jo Charles yn arwain tîm Canolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau yn BIHMR, yn cydweithio gydag economegwyr iechyd ym Mhrifysgol Abertawe. Rhoddwyd £800,000 iddynt i ddarparu ymchwil economeg iechyd a chymorth polisi i fyrddau iechyd y GIG ac ymchwilwyr gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ledled Cymru.
Mae'r galw ar wasanaethau'r sector cyhoeddus, yn arbennig gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, yn parhau i olygu fod angen gwneud penderfyniadau anodd ynglŷn â dyrannu adnoddau.
Dywedodd yr Athro Rhiannon Tudor Edwards, "Mae cefnogaeth seilwaith ar gyfer economeg iechyd ledled Cymru yn golygu y gallwn gyfrannu at ganllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Gofal (NICE), a helpu i lunio polisi iechyd a gofal cymdeithasol ar draws gwrs bywyd yng Nghymru."
Bu'r Athro Clare Wilkinson a Dr Nefyn Williams yn arwain tîm Cymru gyfan sy'n cynnwys Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Abertawe, fel Canolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol a Brys Cymru (yn cynnwys gofal heb ei drefnu) (PRIME), gan ennill £1.8 miliwn.
Arweiniodd Dr Gill Windle dîm o'r Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia (DSDC), gan lwyddo i gael cyllid o £1.2 miliwn fel rhan o Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia Cymru (CADR), canolfan sy'n gynnyrch cydweithio rhwng Prifysgolion Bangor, Abertawe a Chaerdydd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod a chroesawu'r safon ryngwladol o ymchwil, ennill grantiau ac effaith gan y Grwpiau Ymchwil yn BIHMR, a osodwyd yn yr 20 uchaf o Brifysgolion y DU mewn asesiad cenedlaethol o ansawdd ymchwil. Maent hefyd wedi cymeradwyo natur gydweithredol y gweithgaredd ymchwil presennol, lle mae Prifysgol Bangor yn chwarae rhan bwysig.
Mae gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol y gallu i fanteisio ar fywydau cleifion a'r boblogaeth sy'n byw ledled Cymru a thu hwnt. Er enghraifft, gwnaeth NWORTH gwblhau treial yn ddiweddar a oedd yn edrych ar effaith 'adsefydlu gwybyddol' ar bobl sydd newydd ddechrau dioddef o ddementia a gwelwyd y gall hyn gynyddu ymdeimlad pobl o annibyniaeth a gwella gweithrediad. Bwriad CADR yw archwilio a yw'r risg o glefyd Alzheimer yn cael ei ddylanwadu gan agweddau o'r amgylchedd cymdeithasol, fel unigrwydd a gwytnwch.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2017