Prifysgol Bangor yn derbyn saith enwebiad ar gyfer gwobrau WhatUni
Mae Prifysgol Bangor wedi ei henwebu ar gyfer saith gwobr WhatUni Student Choice 2016, gan gynnwys enwebiad ar gyfer Prifysgol y Flwyddyn.
Mae hyn yn dilyn blwyddyn ryfeddol arall i Fangor, sydd hefyd wedi cadw ei safle fel y brifysgol orau yng Nghymru ac yn y deg uchaf yn y DU am foddhad myfyrwyr.
Ar sail ymatebion gan dros 25,000 o fyfyrwyr ar draws y DU ar wefan Whatuni Student Rankings, mae myfyrwyr Bangor wedi ymateb yn y fath fodd cadarnhaol i’w profiad yn y Brifysgol nes bod Bangor wedi cael ei henwebu am Wobrau yn y categorïau canlynol:
- Llety
- Cyrsiau a Darlithoedd
- Clybiau a Chymdeithasau
- Rhyngwladol
- Cyfleusterau’r Brifysgol
- Cefnogi Myfyrwyr
- Prifysgol y Flwyddyn
Y llynedd, cafodd y Brifysgol ei henwi y brifysgol orau yn y DU am ei chlybiau a chymdeithasau ac yn y trydydd safle ar gyfer ei llety.
Croesawyd y newyddion gan yr Athro John G Hughes, Is-ganghellor y Brifysgol, gan ddweud:
“Mae’n bleser gen i fod y Brifysgol wedi cael cymaint o enwebiadau am y Gwobrau hyn eto eleni. Mae’r ffaith ein bod wedi cael ein henwebu am saith gwobr, gan gynnwys y brifysgol orau am gyrsiau a darlithoedd, yn adlewyrchu ein ffocws ar ddarparu addysg ragorol, a phrofiad myfyriwr-ganolog o fywyd prifysgol. Rwy’n falch fod ein myfyrwyr presennol yn gwerthfawrogi eu hamser ym Mangor a bod cymaint yn dewis chwarae rhan mor weithgar ym mywyd y Brifysgol. Daw’r newyddion hyn yr un wythnos y cafodd Prifysgol Bangor ei rhestru yn y Times Higher 200 uchaf o brifysgolion yn Ewrop, ac mae cydnabyddiaeth megis y gwobrau Whatuni yn tanlinellu ein statws fel prifysgol haen uchaf.”
Dywedodd Yr Athro Carol Tully, Dirprwy Is-ganghellor (Myfyrwyr): "Mae’r lefel yma o gydnabyddiaeth gan ein myfyrwyr yn dyst i waith caled ac ymroddiad ein staff o fewn ein gwasanaethau cefnogol a’r Ysgolion a Cholegau. Rydym yn hynod falch o'r gefnogaeth a gaiff ei darparu i'n myfyrwyr gan ein staff yn y Neuaddau, Gwasanaethau Myfyrwyr, Chwaraeon, y Ganolfan Addysg Ryngwladol, Undeb y Myfyrwyr ac o bob cyfeiriad arall ledled y Brifysgol sy'n gweithio mor galed i wneud profiad myfyrwyr ym Mangor yn un mor arbennig."
Ychwanegodd Simon Emmett, Prif Weithredwr Whatuni.com, rhiant gwmni HotCourses Group:
"Mae'r gwobrau WUSCA yn ysbrydoli ac yn rhoi arweiniad i fyfyrwyr o bob cefndir i ddewis y brifysgol sy’n iawn iddynt hwy. Gyda chanlyniadau 2016 yn dilyn mor agos wedi’r Papur Gwyrdd ac ymgynghoriad yn canolbwyntio ar ddewis myfyrwyr, rhagoriaeth addysgu, a symudedd cymdeithasol, ni fu erioed adeg fwy hanfodol i gasglu a dadansoddi cyfraddau boddhad myfyrwyr o bob cwr o'r DU.
"Rydym yn falch iawn o'r gwaith y mae ein tîm wedi ei gyflawni er mwyn cyrraedd y safleoedd hyn eleni - sy'n gweld 14 o sefydliadau newydd yn cael eu cynnwys a thwf o 25% o ran maint y sampl - wrth i fwy o fyfyrwyr ddarganfod pwysigrwydd eu llais eu hunain wrth newid polisi, nid yn unig yn eu sefydliad hwy’n unig, ond ar draws y sector gyfan."
Cyhoeddir Whatuni Student Rankings ar 14 Ebrill mewn seremoni sydd i’w chynnal yn Llundain.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2016