Prifysgol Bangor yn dod â chyflogwyr a myfyrwyr ynghyd mewn ffair yrfaoedd unigryw ym maes y gyfraith
Cafodd myfyrwyr yn yr unig Ysgol y Gyfraith yng ngogledd Cymru gyfle unigryw i gyfarfod a rhwydweithio â rhai o gyflogwyr mwyaf blaenllaw’r rhanbarth mewn digwyddiad arbennig ar gyfer gyrfaoedd ym maes y Gyfraith.
Cynhaliwyd Ffair y Gyfraith, Ysgol y Gyfraith, Bangor yn y brifysgol ar ddydd Mercher 2 Tachwedd, a daeth â darpar gyfreithwyr a nifer o recriwtwyr o ogledd Cymru a gogledd orllewin Lloegr ynghyd, o siambrau bar-gyfreithwyr i sectorau nad ydynt yn ymwneud â'r gyfraith.
Unwaith eto bu Syr Roderick Evans, cyn-Farnwr Llywyddol Cymru, yn agor y digwyddiad yn swyddogol ac yn llywyddu ffug lys rhwng rhai o'r myfyrwyr.
Amcan y Ffair Gyfraith yw dangos y cyfleoedd amrywiol am swyddi sydd ar gael i raddedigion y Gyfraith, o'r llwybrau bargyfreithiwr a chyfreithiwr traddodiadol at fancio a llywodraeth leol. Roedd grwpiau trafod arbenigol yn eu helpu i ddysgu mwy am y gwahanol lwybrau gyrfa hyn ac yn cynnig y cyfle iddynt drafod eu hopsiynau mewn mwy o fanylder gyda'r cyflogwyr.
A hithau bellach yn ei phedwaredd flwyddyn, y Ffair hon yw’r ddiweddaraf o nifer o ymdrechion gan Ysgol y Gyfraith i wella cyflogadwyedd myfyrwyr. “Mentrau fel hyn sy’n gyfrifol am y ganran uchel o’n graddedigion sy’n cael swyddi, ac am y canlyniadau ardderchog o ran boddhad myfyrwyr”, eglura’r Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith, Bangor. “Mae fy nghydweithwyr wedi gwneud y Ffair hon yn ddigwyddiad blynyddol o bwys, a chyflogwyr o amrywiaeth eang o yrfaoedd bellach yn ceisio cymryd rhan, am eu bod yn gwybod mae Ysgol y Gyfraith, Bangor yw’r lle gorau i ddod i chwilio am raddedigion o’r radd flaenaf.”
Roedd rhai o’r arddangoswyr, megis Silverman Sherliker, yn dychwelyd i’r Ffair am yr ail, trydydd – neu hydynoed pedwerydd – tro. “Fel erioed, roedd Ffair y Gyfraith yn bleser i fynychu ac wedi ei rhedeg yn dda”, meddai Martin Donoghue, Partner LLP, “Rwyf bob tro wedi ffeindio myfyrwyr y Gyfraith Bangor i fod yn ddeniadol ac yn ddiddorol i siarad gyda nhw, ac rwyf bob amser yn hapus i fynychu’r digwyddiad fel rhan o’n broses recriwtio.”
Roedd Cyfreithwyr Swayne Johnson hefyd yn un o’r rhai oedd yn dychwelyd: “roeddem yn hapus i gefnogi Ffair y Gyfraith Prifysgol Bangor am y drydedd flwyddyn yn olynol. Roedd ansawdd a brwdfrydedd y myfyrwyr yn nodedig, ac roeddem yn falch o allu rhoi mewnwelediad i yrfa yn y gyfraith”.
Fel rhan o’i gweithgareddau ehangach i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o gyfreithwyr, bydd Ysgol y Gyfraith Bangor hefyd yn cynnal Cynhadledd Gyfraith ar gyfer myfyrwyr Dosbarth 6 lleol, a hynny ddydd Mercher 23 Tachwedd. Bydd rhyw 140 o fyfyrwyr o ysgolion a cholegau Addysg Bellach Gogledd Cymru yn dod i’r diwrnod blasu hwn, fel y cânt gyfle i weld trwy eu llygaid eu hunain yr hyn y mae astudio ar gyfer gradd yn y gyfraith yn ei olygu’n wirioneddol.
Gyda diolch i’r arddangoswyr bu’n cymryd rhan:
- Andrew Hughes Wealth Management
- Barclays
- Bar Pro Bono
- BIS Legal
- BPP
- Heddlu Trafnidiaeth Prydain
- Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Bangor
- CILEx
- Cyngor Ar Bopeth
- Civitas Law
- Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Y Cwmni Adsefydlu Cymunedol
- Cyngor Gwynedd
- DAS
- Fieldings Porter
- Gamlins
- Hugh James
- JMW Solicitors
- Jones Davey
- Knox Commercial
- Knights
- Linenhall Chambers
- Ynadon
- Cymdeithas Ynadon Gogledd Orllewin Cymru
- RKH Marine & Energy
- Silverman Sherliker
- Prifysgol Abertawe
- Swayne Johnson
- Gwasg Prifysgol Cymru
- 7 Harrington Street Chambers
- 25 Bedford Row
Dyddiad cyhoeddi: 11 Tachwedd 2016