Prifysgol Bangor yn dyfarnu ei chylch cyntaf o Gymrodoriaethau’r Academi Addysg Uwch
Llongyfarchiadau i’r chwe aelod o staff academaidd Bangor sydd wedi ennill Cymrodoriaethau’r Academi Addysg Uwch yn y cylch cyntaf o geisiadau i Gynllun Aberystwyth-Bangor i Gydnabod Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) mewn Addysgu a Chefnogi Dysgu.
Cyfarfu’r Panel Achredu, dan gadeiryddiaeth yr Athro Oliver Turnbull, ddydd Gwener 20 Chwefror, a dyfarnu Cymrodoriaeth ac Uwch Gymrodoriaeth, yn ôl eu trefn, i:
Dr Frances Garrad-Cole, Ysgol Seicoleg – Uwch Gymrodoriaeth (SFHEA)
Yr Athro Morag McDonald, Ysgol Gwyddorau Biolegol – Uwch Gymrodoriaeth (SFHEA)
Mrs Peggy Murphy, Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd – Uwch Gymrodoriaeth (SFHEA)
Siân Lewis, Canolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru – Uwch Gymrodoriaeth (SFHEA)
Dr Geraldine Crahay, Ysgol Ieithoedd Modern – Cymrodoriaeth (FHEA)
Dr Christie Margrave, Ysgol Ieithoedd Modern – Cymrodoriaeth (FHEA)
Meddai’r Athro Turnbull: “Dyma uchafbwynt llawer iawn o weithgaredd – ein cynllun ni yw’r unig Gynllun Cydnabod DPP yn y DU i’w gynnal ar y cyd gan ddau sefydliad. Gwych o beth yw gweld y cylch cyntaf o staff yn derbyn cymrodoriaethau, a’u ffurflenni cais fel pe baent yn nodi dilyniant o waith addysgu arloesol hynod o lwyddiannus. Rwy’n siŵr y gwelwn lawer mwy o gyflwyniadau yn y cylchoedd i ddod – a chyda hynny ymwybyddiaeth a chydnabyddiaeth gynyddol o’r gwaith anhygoel sy’n digwydd (yn aml heb i fawr o neb sylwi arno) ar draws ein sefydliad. Llongyfarchiadau i’r rhai o’r cylch hwn! Edrychaf ymlaen at weld llawer mwy yn y dyfodol.”
Meddai Sue Clayton, Pennaeth Datblygiad Proffesiynol Parhaus – Addysgu a Dysgu (CELT): “Mae’n bleser gen i fod y llwyddiannau cryf, cynnar hyn yn dod trwy ein cynllun, yn enwedig yr un sydd wedi dod trwy lwybr Cyfrwng Cymraeg. Mae’r Cynllun Cydnabod DPP wedi ennyn cryn dipyn o ddiddordeb cadarnhaol ers ei lansiad ym Medi 2014. Mae cyfanswm o fwy na 70 o wedi mynd i’r sesiynau cynefino misol cychwynnol i’r cynllun, a disgwylir 50 yn rhagor erbyn diwedd y flwyddyn hon. Yn awr fod yr arloeswyr hyn gennym, gobeithio y caiff y rheiny sydd wrthi’n llunio eu ceisiadau anogaeth!”
Ar 13 Mai, cynhelir gweithdy ysgrifennu i’r rhai sydd wrthi’n llunio ceisiadau – mewn da bryd i gefnogi ceisiadau ar gyfer y cylch nesaf (dyddiad cau – dydd Gwener 5 Mehefin).
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â celt@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mawrth 2015