Prifysgol Bangor yn edrych ymlaen at Eisteddfod brysur ym Maldwyn
Mae Prifysgol Bangor am fod yn weithgar yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol eto eleni, efo digwyddiadau ar y stondin drwy’r wythnos.
Ymysg uchafbwyntiau dydd Llun bydd ‘Te bach’ i ddathlu 150 mlwyddiant y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Bydd adnoddau arbennig Adran Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor, sy’n olrhain hanes y Wladfa, gan gynnwys lluniau hynod John Murray Thomas o’r Cymry yn ystod blynyddoedd cynnar y Wladfa i’w gweld yn y ddigwyddiad agored am 2.30 Llun Awst 3.
‘Arloesi ar gyfer Technolegau Iaith a’r Cyfryngau’ a fydd dan sylw mewn cyfarfod am 4.00 i ddathlu’r datblygiadau diweddaraf gan Uned Technolegau Iaith, a ddaw o dan adain Canolfan Bedwyr y Brifysgol.
‘Dyfodol Darlledu yng Nghymru’ fydd yn dwyn sylw Gwion Lewis, y bargyfreithiwr a chyflwynydd rhaglen Radio Cymru, ‘Cyflwr y Cyfryngau', wrth iddo draddodi darlith Cylchgrawn Barn ar stondin Prifysgol Bangor am 12.45 Ddydd Mawrth.
Dilynir hyn (am 3.00) gan drafodaeth arall, y tro hyn ar y ffordd orau i gynnal gofal yn ein cymunedau gwledig Cymraeg. Bydd y drafodaeth am y ffordd orau i ddarparu ar gyfer anghenion pob aelod o’n cymunedau yng nghanol llymder ariannol, a beth yw rôl cymuned yn hyn o beth, yn cynnwys cyfraniadau gan Shan Ashton, Pennaeth Ysgol Dysgu Gydol Oes y Brifysgol a Gwenan Prysor, Cyfarwyddwr cwrs Gwaith Cymdeithasol y Brifysgol.
A hithau’n Flwyddyn Ryngwladol Goleuni 2015, gwahoddwyd Yr Athro K.Alan Shore o Ysgol Peirianneg Electronig Prifysgol Bangor i draddodi darlith Gwyddoniaeth a Thechnoleg Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Bydd yr Athro Alan Shore, sydd yn Gymrodor o’r Gymdeithas yn trafod Grym Golau yn y ddarlith sydd yn digwydd ym Mhabell y Cymdeithasau 2 am 13.30 Mawrth 4 Awst.
Mae wedi dod yn draddodiad diweddar i rai o’r Brifysgolion cynnal aduniad ar Ddydd Mercher 5 a dyna yw’r drefn eleni eto. Caiff cyn fyfyrwyr Prifysgol Bangor a’r Coleg Normal sydd ar y maes bigo draw i stondin y Brifysgol am 2.00 a chyfarfod a hen ffrindiau a chyn-fyfyrwyr i rannu atgofion am hwn a’r llall. Prynhawn Mercher a thrwy’r wythnos hefyd, bydd cynrychiolwyr yr Ysgol Hanes yn casglu atgofion melys cyn-fyfyrwyr a staff fel ran o broject hanes llafar ‘Straeon Bangor’.
Mae Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor yn darparu’r arlwy ddydd Iau ar stondin Prifysgol Bangor, yn cychwyn am 11.00 gyda Dosbarth Canu Pop, lle bydd Gethin Griffiths ac Ifan Davies, sêr Cân i Gymru yn rhannu cyfrinachau canu a chyfansoddi pop. Am 12.00 bydd Sian James yn rhannu gwobrau Musica, sef gwobrau newydd ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd sy’n astudio cerddoriaeth Lefel A.
Bydd y DJ Radio 1 a Radio Cymru, Huw Stephens yn cadeirio drafodaeth ar y wasg gerddorol Gymraeg, gyda chyfraniadau gan unigolion sydd wedi cynnal y wasg gerddorol dros y 40 mlynedd diwethaf.
Celfyddydau a Dementia
Mae dementia’n cael sylw mewn dwy achlysur ar stondin Prifysgol Bangor yn ystod wythnos yr Eisteddfod, gan adlewyrchu arbenigedd a gwaith arloesol y Brifysgol yn y maes. Fore Llun am 11.00 bydd sylw i broject Dementia a’r Dychymyg, sydd wedi rhoi cyfle i pobol sydd a dementia sy’n byw yn Sir Ddinbych gymryd rhan mewn gweithdai celf. Bydd peth o’r gwaith yn cael eu harddangos ynghyd ag astudiaeth o effaith rhaglen celfyddydol wythnosol ar lles y rhai a fu’n cymryd rhan. Am 11.00 Ddydd Gwener bydd un o brojectau Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, sef Corneli Cudd, yn trafod y cyswllt rhwng cerddoriaeth a dementia, yn dilyn project gan Pontio a fu’n cynnig profiadau arbennig i bobol sydd yn byw gyda dementia, pobol ifanc a myfyrwyr, a sut fydd y gwaith yma yn ehangu wedi i’r Ganolfan agor ei drysau. Cyllidir Pontio trwy Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol (SCIF) Llywodraeth Cymru, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), Prifysgol Bangor a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Bydd Y Galw’n canu’n fyw ar y stondin am 1.30 ac yna Swnami yn canu’n fyw am 2.30.
Mae’n debyg y bydd cerddoriaeth i’w glywed yn codi o’r Pafiliwn Gwyddoniaeth hefyd ar brydiau yn ystod yr wythnos wrth i Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor, ynghyd â chwmni Techniquest, gynnal arbrofion sy’n profi’r cyswllt rhwng cerddoriaeth a’r byd gwyddonol.
Dogfennau cysylltiedig:
Dyddiad cyhoeddi: 27 Gorffennaf 2015