Prifysgol Bangor yn edrych ymlaen at Eisteddfod brysur ym Maldwyn
Mae Prifysgol Bangor am fod yn weithgar yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol eto eleni, efo digwyddiadau ar y stondin drwy’r wythnos.
Dilynwch y dolenni er mwyn darllen mwy am ein gweithgareddau:
Osian Huw Williams yn ennill Tlws y Cerddor yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Myfyriwr Prifysgol Bangor, Osian Huw Williams yw enillydd Tlws y Cerddor yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, ac fe’i anrhydeddwyd mewn seremoni arbennig ar lwyfan y Pafiliwn nos Fercher.
Wythnos Lawn Ysgol y Gymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn
Mae rhai o staff Ysgol y Gymraeg ymhlith y beirniaid ar dair o brif wobrau llenyddol Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau a gynhelir rhwng 1 a 8 Awst ym mhentref Meifod. Bydd Yr Athro Jerry Hunter yn beirniadu’r Fedal Ryddiaith, Yr Athro Angharad Price yn beirniadu Gwobr Goffa Daniel Owen a’r Athro Athro Gerwyn Wiliams yn beirniadu’r Goron.
Lansio Seilwaith Cyfathrebu Cymraeg yn yr Eisteddfod
Fel rhan o’u sesiwn ar Arloesi ar gyfer Technolegau Iaith a’r Cyfryngau Digidol brynhawn dydd Llun yn yr Eisteddfod, bydd Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn lansio eu project newydd, Seilwaith Cyfathrebu Cymraeg.
Yr Ysgol Hanes yn yr Eisteddfod Genedlaethol Bydd staff a myfyrwyr o’r Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg yn brysur yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau ar faes Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau eleni. Staff and students from the School of History, Welsh History and Archaeology will be busy with a range of activities at the Montgomeryshire and the Marches National Eisteddfod this year.
Te bach ar faes yr Eisteddfod yn dathlu pen-blwydd y Wladfa
Beth well na ‘thê bach’ traddodiadol o Batagonia i ddathlu pen-blwydd y Wladfa Gymreig yn 150 o flynyddoedd oed, ac i dynnu sylw at gasgliad unigryw ac amhrisiadwy yn ymwneud â’r Wladfa sydd yn cael ei harddangos ym Mhrifysgol Bangor at hyn o bryd.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2015