Prifysgol Bangor yn ennill Gwobr Brydeinig
Mae Prifysgol Bangor wedi derbyn gwobr o bwys mewn digwyddiad yn Llundain yn ddiweddar, o ganlyniad i adolygiadau gwych gan ei myfyrwyr.
Derbyniodd y Brifysgol chwe enwebiad allan o naw categori yng Ngwobrau Dewis Myfyriwr Whatuni y DU, gan gynnwys un am Brifysgol y Flwyddyn. Llwyddodd i gipio’r Wobr ar gyfer y Clybiau a’r Cymdeithasau Gorau mewn unrhyw Brifysgol. Roedd staff yn y Brifysgol hefyd yn falch o ddod yn drydydd am Llety Myfyrwyr, yn bedwerydd yn y DU yn y categori cymorth i fyfyrwyr, ac yn seithfed yn y prif gategori am Brifysgol y Flwyddyn.
Daw’r llwyddiant diweddaraf fel cadarnhad pellach o ansawdd y cyrsiau, y llety, y cyfleusterau a’r gefnogaeth i fyfyrwyr a roddir gan y Brifysgol. Mae hyn yn dilyn blwyddyn ryfeddol i Fangor, pan ddaeth y Brifysgol yn gyntaf yng Nghymru ac yn 7fed yn y DU am foddhad myfyrwyr. Daeth yn un o’r 100 Prifysgol orau yn y byd am ei hagwedd ryngwladol, ac yn un o’r 20 uchaf yn y DU o ran profiad myfyrwyr.
Croesawyd y newyddion gan yr Athro John G Hughes, Is-ganghellor y Brifysgol, a dywedodd:
“Mae’n bleser gen i fod y Brifysgol wedi ennill y Wobr hon, ac rydw i’n ddiolchgar i’r holl fyfyrwyr am eu cymorth. Mae’r enwebiadau hyn yn adlewyrchu ein ffocws ar ddarparu addysg ragorol a phrofiad cyffredinol, myfyriwr-ganolog o fywyd prifysgol. Rwy’n falch fod ein myfyrwyr presennol yn gwerthfawrogi eu hamser ym Mangor, a bod cymaint yn dewis chwarae rhan mor weithgar ym mywyd y Brifysgol. Hoffwn ddiolch i’r holl staff am eu hymdrechion gwych.”
Ychwanegodd Rhys Taylor, Llywydd Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Bangor:
“Rydym yn hynod falch o’r bartneriaeth sydd rhwng y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yma ym Mangor. Mae’r buddsoddiad yr ydym wedi rhoi mewn i Glybiau a Chymdeithasau wedi ei gydnabod fel rhan o’r Gwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni. Yn 2010 buom yn arwain y ffordd wrth roi aelodaeth o Glybiau a Chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr yn rhad ac am ddim er mwyn sicrhau y gall bawb gymryd rhan yn ein gweithgareddau a gwneud y gorau o fywyd prifysgol. Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau yn gwella cyflogadwyedd myfyrwyr gan ddatblygu amrediad o sgiliau, a hefyd yn cynnal y myfyrwyr yn ystod eu haddysg drwy greu cymunedau a rhwydweithiau. Rydym yn diolch i’r myfyrwyr hynny sy’n cymryd rhan ac yn trefnu ein Clybiau a Chymdeithasau, sy’n sicrhau gwell profiad fyth i’w cyd-fyfyrwyr.”
Ar sail ymatebion gan fwy nag 20,000 o fyfyrwyr ar draws y DU, wrth iddynt nodi eu barn ar wefan Whatuni Student Rankings, mae myfyrwyr Bangor wedi ymateb mor gadarnhaol i’w profiad yn y Brifysgol fel bod Bangor wedi cael ei henwebu am Wobrau yn y categorïau canlynol:
- Prifysgol y Flwyddyn
- Llety
- Cyrsiau
- Clybiau a Chymdeithasau
- Cyfleusterau’r Brifysgol
- Cefnogi Myfyrwyr
Mae llwyddiannau diweddar eraill Prifysgol Bangor yn cynnwys cael ei gosod ar y brig yng Nghymru ac yn seithfed yn y DU mewn arolwg cenedlaethol o foddhad myfyrwyr, ar sail boddhad myfyrwyr gyda’u profiad yn y brifysgol. Fe’i gosodwyd ymysg y 50 prifysgol orau yn y DU yn ôl Good University Guide 2015 y Times a’r Sunday Times, ac fe’i gosodwyd ymysg 100 prifysgol orau’r byd am agwedd ryngwladol y Brifysgol. Mewn meysydd eraill, mae’r Brifysgol wedi llwyddo gyda chanlyniadau gwych yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF), a nododd fod mwy na thri chwarter ymchwil Bangor naill ai “gyda’r orau yn y byd” neu’n “rhagorol yn rhyngwladol”. Mae Bangor hefyd yn y 10% uchaf o brifysgolion gwyrddaf y byd ac, yn ddiweddar, wedi ennill Safon Amgylcheddol ISO14001 a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Ychwanegodd Simon Emmett, Rheolwr-Gyfarwyddwr Whatuni.com: “I ddarpar-fyfyrwyr, mae cael gwybod o lygad y ffynnon am ansawdd addysg a disgwyliadau realistig am fywyd mewn prifysgol yn adnodd amhrisiadwy wrth wneud penderfyniad ynghylch astudio ar gyfer gradd. Ein gobaith ni yw y bydd y tablau hyn, sy’n ganlyniad i farn myfyrwyr, yn cyfrannu at yr ymchwil a’r paratoi mae angen i bob myfyriwr ei wneud er mwyn dewis y brifysgol sy’n iawn iddo ef/ iddi hi.”
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2015