Prifysgol Bangor yn ennill Gwobr Brydeinig
Mae Prifysgol Bangor wedi cael gwobr o bwys mewn digwyddiad yn Llundain yn ddiweddar, o ganlyniad uniongyrchol i adolygiadau gwych gan ei myfyrwyr.
Derbyniodd y Brifysgol saith enwebiad allan o ddeg categori yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni 2016, gan gynnwys un am Brifysgol y Flwyddyn. Llwyddodd i gipio’r Wobr ar gyfer y Llety Myfyrwyr Gorau mewn unrhyw Brifysgol. Hefyd, cafodd y Brifysgol ei henwi’n ail yn y DU ar gyfer Cyrsiau a Darlithoedd, trydydd yn y DU ar gyfer Cefnogaeth i Fyfyrwyr, ac yn bedwerydd yn y prif gategori am Prifysgol y Flwyddyn. Bu cyfanswm o 125 prifysgol yn y DU yn cystadlu yn y gwobrau eleni.
Daw’r llwyddiant diweddaraf fel cadarnhad pellach o ansawdd y cyrsiau, y llety, y cyfleusterau a’r gefnogaeth i fyfyrwyr a roddir gan Brifysgol Bangor ac mae hyn yn dilyn blwyddyn ryfeddol arall sydd hefyd wedi gweld ei bod yn cadw ei safle fel yr orau yng Nghymru ac yn y deg uchaf yn y DU yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol ar gyfer boddhad myfyrwyr.
Croesawyd y newyddion gan yr Athro John G Hughes, Is-ganghellor y Brifysgol, a dywedodd:
"Dyma'r ail flwyddyn yn olynol i Brifysgol Bangor ennill Gwobr Whatuni genedlaethol. Rwyf wrth fy modd fod y Brifysgol wedi ennill gwobr categori eto, a sicrhau safle yn y pump uchaf mewn nifer o gategorïau eraill. Mae'r fuddugoliaeth hon yn adlewyrchu ein ffocws ar ddarparu addysg ragorol a phrofiad cyffredinol, myfyriwr-ganolog o fywyd prifysgol. Rwy’n falch fod ein myfyrwyr presennol yn gwerthfawrogi eu hamser ym Mangor, a diolch iddynt am eu cefnogaeth. Hoffwn ddiolch hefyd i’r holl staff am eu hymdrechion gwych.”
Dywedodd Ken Griffith, Pennaeth y Neuaddau Preswyl: "Mae wedi bod yn ymdrech tîm aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf wrth i ni hefyd agor ein pentref myfyrwyr newydd - y Santes Fair - gan gynyddu ein portffolio i bron i 3000 o ystafelloedd. Yr hyn sy'n bwysig yw bod ein safonau ansawdd uchel a gwasanaeth wedi cael eu cynnal drwy gydol yr amser ac mae’n myfyrwyr wedi cydnabod hyn wrth bleidleisio. Rydym mewn sefyllfa dda i roi’r profiad myfyriwr gorau i’r myfyrwyr newydd y flwyddyn nesaf yn ein neuaddau."
Ar sail ymatebion gan fwy na 25,000 o fyfyrwyr ar draws y DU, wrth iddynt nodi eu barn ar wefan Whatuni Student Rankings, mae myfyrwyr Bangor wedi ymateb mor gadarnhaol i’w profiad yn y Brifysgol fel bod Bangor wedi cael ei henwebu am Wobrau yn y categorïau canlynol:
- Llety
- Cyrsiau a Darlithoedd
- Clybiau a Chymdeithasau
- Rhyngwladol
- Cyfleusterau’r Brifysgol
- Cefnogi Myfyrwyr
- Prifysgol y Flwyddyn
Ychwanegodd Simon Emmett, Rheolwr-Gyfarwyddwr Whatuni.com:
"Mae Prifysgol Bangor wedi cael cymeradwyaeth gref gan eu myfyrwyr yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni eleni. Mae profiad y myfyrwyr yn agwedd hollbwysig o fywyd prifysgol, ac rydym yn falch iawn i chwarae rôl sylweddol ynddo ar gyfer myfyrwyr y presennol a'r dyfodol."
Dyddiad cyhoeddi: 15 Ebrill 2016