Prifysgol Bangor yn ennill gwobr Brydeinig
Prifysgol Bangor yw’r orau ym Mhrydain am ei darpariaeth o Glybiau a Chymdeithasau Myfyrwyr a’r drydedd Brifysgol orau ym Mhrydain yn ôl gwobrau Student Choice Awards 2017, gyda’r enwebiadau’n seiliedig ar adolygiadau gwych gan ei myfyrwyr.
Yn ogystal ag ennill gwobr ‘Efydd’ am Brifysgol y Flwyddyn, gosodwyd y Brifysgol yn drydydd yng nghategori Cyrsiau a Darlithwyr a chategori Rhoi'n Ôl, ac ymhlith y deg uchaf ym mhob un o’r deg categori yr enwebwyd y Brifysgol ynddynt, gan gynnwys categori newydd, Rhoi yn ôl, lle’r oedd myfyrwyr yn sgorio eu prifysgol ar faint mae’n ei roi'n ôl i'r gymuned, boed hynny'n fyd-eang neu'n lleol.
Ni lwyddodd yr un Brifysgol arall i dderbyn cymaint o enwebiadau.
Mae’r llwyddiant diweddaraf yn gadarnhad pellach o ansawdd y cyrsiau, llety, cyfleusterau a’r gefnogaeth i fyfyrwyr a gynigir ym Mhrifysgol Bangor, ac mae hyn yn dilyn blwyddyn lwyddiannus arall sydd hefyd wedi dangos ei bod ymhlith y 15 uchaf yn y DU yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol am foddhad myfyrwyr.
Croesawyd y newyddion gan yr Athro John G Hughes, Is-ganghellor y Brifysgol, a dywedodd:
"Dyma'r drydedd flwyddyn yn olynol i Brifysgol Bangor ennill gwobr genedlaethol Whatuni. Rwyf wrth fy modd fod y Brifysgol wedi ennill gwobr categori eto, Gwobr Efydd am Brifysgol y Flwyddyn ac wedi dod yn agos mewn sawl categori arall. Mae'r fuddugoliaeth hon yn adlewyrchiad o’n cydweithrediad agos gydag Undeb y Myfyrwyr a’n myfyrwyr er mwyn darparu addysg a phrofiad cyffredinol rhagorol. Rwy'n ddiolchgar i’n myfyrwyr am eu cymorth, ac yn falch iawn eu bod yn gwerthfawrogi eu hamser ym Mangor. Hoffwn ddiolch hefyd i holl staff y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr am eu hymdrechion gwych.”
Dywedodd Dylan Williams, Cyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr:
“Rydym wrth ein boddau ein bod wedi ennill gwobr Clybiau a Chymdeithasau Gorau yng ngwobrau Whatuni 2017. Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod myfyrwyr Bangor yn cael y cyfleoedd gorau posib ac mae’r wobr yn cael ei derbyn ar ran pob myfyriwr ac aelod staff sydd wedi rhoi eu hamser a’u brwdfrydedd i sicrhau bod Bangor yr orau posib. Mae hon wedi bod yn flwyddyn arobryn ac roeddem hefyd yn falch o fod wedi derbyn Gwobrau NUS Cymru ac Uchel Sirydd Gwynedd am ein Cyfleoedd i Fyfyrwyr.”
Mae’r 26,000 o adolygiadau a geir yng ngwobrau Whatuni yn golygu mai dyma’r crynhoad mwyaf cynhwysfawr o leisiau myfyrwyr yn y DU.
Enwebwyd Prifysgol Bangor yn y categorïau canlynol: Prifysgol y Flwyddyn, Cefnogaeth i Fyfyrwyr, Rhagolygon Swyddi, Clybiau a Chymdeithasau, Cyfleusterau Prifysgol, Llety, Cyrsiau a Darlithwyr, Rhyngwladol, Ôl-radd a Rhoi yn ôl.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Ebrill 2017