Prifysgol Bangor yn ennill Gwobr Cynnal Cymru
Mae Prifysgol Bangor wedi dod gyntaf yng Ngwobrau Cynnal Cymru yn y categori Sefydliad Addysg Bellach. Roedd y wobr yn cydnabod y sefydliad addysgol oedd yn dangos tystiolaeth gref o effaith neu arloesedd, ac wedi ei noddi gan Acuity Legal.
Pleidleisiodd dros 11,000 o unigolion ar gyfer y naw categori, diolch yn fawr iawn i’r rhai bleidleisiodd dros Prifysgol Bangor! Llongyfarchiadau hefyd i’r wyth enillwyr a’r enwebeion eraill; roedd yn ysbrydoliaeth clywed am yr holl waith da sy’n digwydd ym maes cynaliadwyedd ar hyd a lled Cymru.
Dywedodd Dr Einir Young, Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor:
“Ychydig dros flwyddyn sydd ers i’r Lab Cynaliadwyedd gael ei sefydlu fel canolbwynt corfforaethol ar gyfer cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Bangor. Rydym yn datblygu’n ganolbwynt a chatalydd ar gyfer dod â chynaliadwyedd yn fyw ym mhob agwedd ar waith ymchwil, dysgu ac addysgu’r Brifysgol ac wrth ymgysylltu â’r cyhoedd. Mae’n ddyddiau cymharol gynnar ar ein taith tuag at ddod yn Brifysgol Gynaliadwy felly roeddwn wrth fy modd i ddarganfod ein bod wedi ennill.”
Oes awydd arnoch fod yn rhan o ddatblygiadau cyffrous cynaliadwyedd Prifysgol Bangor? Cliciwch yma…
Dyddiad cyhoeddi: 29 Tachwedd 2016