Prifysgol Bangor yn ennill Safon Ryngwladol am Reolaeth Amgylcheddol
Yn dilyn archwiliad allanol trylwyr a gynhaliwyd ym mis Mawrth eleni, mae Prifysgol Bangor wedi llwyddo i ennill ardystiad ISO 14001:2004 am ei hymrwymiad wrth welliannau parhaus ar yr amgylchedd. ISO 14001 yw’r safon a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer sefydliadau sy’n mynd ati’n unswydd i reoli’r effeithiau a gânt ar yr amgylchedd trwy System ffurfiol ar gyfer Rheoli’r Amgylchedd (S.Rh.A.). Mae’r wobr hon yn adeiladu ar ein hardystiad Draig Werdd sydd gennym er 2009.
Meddai Ricky Carter, Rheolwr Amgylcheddol Prifysgol Bangor, “Mae safonau’r Ddraig Werdd ac ISO14001, fel ei gilydd, yn gofyn am reolaeth systematig ar y gweithgareddau hynny a all gael effaith andwyol ar yr amgylchedd. Yn ein hachos ni, mae’r rhain yn cynnwys yr ynni a ddefnyddiwn, defnyddio adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy, trin a gwaredu gwastraff, a theithio ar gyfer busnes. Mae’r Ddraig Werdd yn safon reoli dra chredadwy o fewn Cymru, ac mae adeiladu ar hon gan ennill ardystiad ISO 14001 yn dangos yn glir i’n budd-ddeiliaid ar lefel fyd-eang fod ein Prifysgol wedi ymrwymo i warchod a gwella ein hamgylchedd naturiol.”
Meddai’r Is-Ganghellor, yr Athro John G Hughes, “Mae hwn yn llwyddiant rhyfeddol wrth inni gyrraedd y nod tymor hir a bennwyd gennym pan gychwynasom ar ein S.Rh.A. yn ôl yn 2009. Rwyf wrth fy modd ein bod yn parhau i adeiladu ar ein henw da rhyngwladol fel Prifysgol gynaliadwy, ac mae hon yn dystiolaeth ychwanegol ein bod yn cymryd ein cyfrifoldebau amgylcheddol yn llwyr o ddigrif.”
Ym Mangor, rydym bob amser yn chwilio am syniadau am wella ein perfformiad amgylcheddol yn fwy fyth, a gellwch anfon unrhyw syniadau neu awgrymiadau a fo gennych i environment@bangor.ac.uk.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mai 2014