Prifysgol Bangor yn ennill tair gwobr yn y National Student Housing Awards
Adnoddau rhyngrwyd ac ailgylchu yn rhoi Prifysgol Bangor ar y blaen yn y National Student Housing Awards
Mae Prifysgol Bangor wedi ennill gwobr am y rheolaeth amgylcheddol orau a'r rhyngrwyd gorau i fyfyrwyr yn y National Student Housing Awards.
Mae'r gwobrau'n gyfan gwbl seiliedig ar adborth gan ddegau o filoedd o fyfyrwyr yn y DU i arolwg a luniwyd gan Red Brick Research.
Wrth sôn am y llwyddiant, dywedodd Deirdre McIntyre, Pennaeth Bywyd Preswyl, fod gwasanaeth y brifysgol i fyfyrwyr yn cael ei ddarparu gan waith tîm cydlynol i greu amgylchedd cefnogol i fyfyrwyr sy'n byw ac yn astudio ym Mhrifysgol Bangor.
"Mae'r ymateb i'r arolygon yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol iawn i ni fydd yn ein galluogi i ymestyn ac adeiladu ar ein gwasanaethau i fyfyrwyr," meddai.
Mae ennill y wobr am y rheolaeth amgylcheddol orau'n tystio i ymrwymiad Prifysgol Bangor i'r amgylchedd ac i ymroddiad a syniadau gwreiddiol y tîm Bywyd Preswyl a'r tîm Cynaliadwyedd sy'n darparu amrywiaeth o weithgareddau gwastraff ac ailgylchu. Mae neuaddau preswyl y brifysgol yn cynnig gwasanaeth ailgylchu cynhwysfawr i bob myfyriwr gyda'r modd i ailgylchu gwastraff yn eu neuaddau unigol ac mewn mannau cymunedol. Ceir poster gyda gwybodaeth graffeg ym mhob ystafell wely sy'n dangos yn glir yr hyn sy'n dderbyniol yn y cyfleusterau ailgylchu.
Ynghyd ag ymgyrchoedd ymwybyddiaeth gwastraff eraill, mae tîm y Lab Cynaliadwyedd y brifysgol yn ymdrechu i ysbrydoli myfyrwyr i fod yn ddinasyddion byd-eang cyfrifol, trwy nifer o fentrau a digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn academaidd.
Mae Prifysgol Bangor yn falch iawn o fod wedi ennill y Best Student Broadband Award. Mae cysylltiad cyflym dibynadwy â'r rhyngrwyd yn elfen hanfodol o fywyd myfyrwyr. Mae'r brifysgol wedi buddsoddi dros £300,000 yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf i uwchraddio'r cysylltiad di-wifr ym mhentrefi'r myfyrwyr ac ym mhob man sy'n agored i fyfyrwyr ledled y campws. Yn ogystal â hyn, mae'r brifysgol newydd gwblhau project i ddyblu cyflymder cysylltiad y brifysgol a sicrhau cyflymder cysylltiad gwych i'r defnyddiwr. Darperir y gwasanaeth yn yr holl ystafelloedd gwely trwy bartneriaeth agos rhwng Gwasanaethau TG y brifysgol a'r tîm Llety Myfyrwyr.
Mae tîm pwrpasol o staff proffesiynol Cymorth TG yn cynorthwyo myfyrwyr gydag unrhyw broblemau sy'n codi wrth gysylltu eu dyfeisiau, tra bod tîm ar gael yn ystod y penwythnos croeso pan fydd y myfyrwyr yn casglu eu hallweddi er mwyn sicrhau bod ganddynt gysylltiad â'r rhyngrwyd o'r diwrnod cyntaf. Mae'r brifysgol yn parhau i fuddsoddi yn y gwasanaeth hwn ac yn y ddarpariaeth TG yn gyffredinol i sicrhau bod ein myfyrwyr a'n staff yn gallu mwynhau'r gwasanaeth gorau posib.
Dyfarnwyd marc ansawdd llety rhyngwladol i'r brifysgol hefyd. Rhoddir y marc safon hwn i unrhyw ddarparwr llety sy'n llwyddo i sicrhau lefelau bodlonrwydd o 90% neu uwch gyda myfyrwyr rhyngwladol.
Roedd Bangor yn un o bum prifysgol i ennill y gydnabyddiaeth hon.
Roedd y brifysgol hefyd ymysg y tair uchaf yn y categori neuaddau prifysgol gorau.
Yn ddiweddar, rhoddwyd Prifysgol Bangor yn 10 uchaf prifysgolion anarbenigol y DU hefyd, yn ôl yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol blynyddol diweddaraf.
Dyfarnwyd safon aur hefyd i'r brifysgol yn rownd gyntaf Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu Llywodraeth y DU ac mae'n perfformio'n gyson dda, yn seiliedig ar ymatebion myfyrwyr yn y WhatUni Student Choice Awards.
Mae'r National Student Housing Awards blynyddol yn llwyr seiliedig ar adborth uniongyrchol gan dros 32,000 o fyfyrwyr ar draws 200 o brifysgolion a cholegau. Heb unrhyw enwebiadau ysgrifenedig a heb feirniaid 'arbenigol', mae'r National Student Housing Awards yn wobrau o bwys sydd â llawer iawn o hygrededd. Cesglir y data i'r gwobrau trwy'r National Student Housing Survey (DU) a'r National Student Housing Survey (Iwerddon) a drefnir gan Red Brick Research, asiantaeth ymchwil i'r farchnad a gwybodaeth busnes annibynnol sy'n arbenigo mewn marchnata i bobl ifanc, llety myfyrwyr ac addysg uwch.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Medi 2018