Prifysgol Bangor yn Gwobrwyo Arweinwyr Cyfoed y Flwyddyn 2014
Mae Victoria Allen a Joe Barnett wedi’u henwi’n enillwyr gwobr Arweinwyr Cyfoed y Flwyddyn 2014 ym Mhrifysgol Bangor, i gydnabod y gefnogaeth wych maent wedi’i rhoi i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf yn y Brifysgol.
Mae Victoria (21) yn fyfyrwraig Hanes yn yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg. Cyn cychwyn ar ei hastudiaethau yn y Brifysgol, mynychodd St Peter's RC High School and Sixth Form Centre yn Gloucester.
Yn gyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Dinbych, mae Joe yn fyfyriwr Gwyddor Chwaraeon yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer.
Derbyniodd y ddau darian a gwerth £50 o docynnau Amazon fel gwobr.
Mae Cynllun Arweinwyr Cyfoed Prifysgol Bangor yn cynorthwyo myfyrwyr newydd wrth iddynt ymaddasu i fywyd prifysgol. Mae’n eu paru â myfyrwyr sydd eisoes yn y Brifysgol, ac sydd wedi derbyn hyfforddiant arbennig i’w galluogi i gynorthwyo eu cyd-fyfyrwyr. Gyda mwy na 450 o fyfyrwyr yn cymryd rhan, mae hwn yn un o’r cynlluniau mwyaf o’i fath yn y wlad.
Mae’r Arweinwyr Cyfoed yn helpu’r myfyrwyr newydd i gymdeithasu, a dysgu eu ffordd o gwmpas y ddinas a’r Brifysgol. Gallant gyfeirio’r myfyrwyr newydd at wybodaeth neu gefnogaeth ychwanegol os bydd angen.
“Mae ymrwymiad yr Arweinwyr Cyfoed a’u cyfraniad at fywyd Prifysgol Bangor yn amhrisiadwy,” meddai Kim Davies, Cydlynydd Arweinwyr Cyfoed o fewn y Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr.
“Mae’r Arweinwyr Cyfoed yn trefnu a chynnal digwyddiadau yn ystod yr Wythnos Groeso, ac ar gael i gynorthwyo’r myfyrwyr newydd wrth iddynt ymaddasu i fywyd Prifysgol. Gallant wneud y gwahaniaeth rhwng myfyriwr newydd yn penderfynu aros yn y Brifysgol neu ymadael yn ystod yr wythnosau cyntaf oddi cartref. Maent yn dod yn ffrindiau i’w myfyrwyr, a bydd rhai cysylltiadau’n parhau trwy’r Brifysgol,” ychwanegodd.
Enwebwyd Victoria a Joe am y wobr hon gan y myfyrwyr blwyddyn gyntaf y meant yn gyfrifol fel Arweinydd Cyfoed arnynt. Enwebwyd Joe am ei fod yn hynod o groesawgar a bob tro’n trio’i orau i ateb unrhyw gwestiynau a datrys unrhyw broblem. Dywedodd un o’r enwebwyr: "Rwy'n gwybod na fyddwn wedi gallu wynebu’r flwyddyn gyntaf heb y cymorth yr oedd ar gael ganddo."
Ar ôl derbyn ei wobr, dywedodd Joe: "Roeddwn eisiau bod yn Arweinydd Cyfoed gan fy mod eisiau helpu myfyrwyr blwyddyn gyntaf deimlo’n gartrefol, oherwydd yn fy mlwyddyn gyntaf cefais ddechrau sigledig a doeddwn i ddim eisiau i unrhyw un arall gael yr un profiad. Rwy'n hynod o falch o fod yn rhan o'r cynllun Arweinwyr Cyfoed a gychwynnodd ym Mangor a hefyd bod yn rhan o grŵp sy'n gofalu am fyfyrwyr. Mae wedi bod yn brofiad gwych."
Cafodd Victoria ei henwebu am ei bod wedi annog myfyrwyr i ymuno â chlybiau a chymdeithasau, rhoi’r hyder i fyfyrwyr archwilio Bangor a gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd ar gael. Roedd hi hefyd mewn cysylltiad trwy gydol y flwyddyn ac wedi cysylltu gyda myfyrwyr sawl gwaith cyn iddynt ddod i Fangor ac yn ateb llawer o gwestiynau cyn iddynt gyrraedd. Meddai un enwebwr , "yn ystod cyfnod yr arholiadau yr oedd yn sicrhau fy mod yn iawn ac yn fy nghynghori am ffynonellau i gael cymorth ychwanegol."
Wrth ei bodd gyda'i wobr, dywedodd Victoria: "Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf ym Mangor, cefais ofal a chymorth gan Arweinwyr Cyfoed ac yr oeddwn eisiau bod yn rhan o hynny. Mae ein hysgol mor agos; rwyf wrth fy modd yn ymuno â gweithgareddau a chwrdd â holl fyfyrwyr blwyddyn gyntaf a hefyd cadw mewn cysylltiad â nhw trwy gydol y flwyddyn."
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mai 2014