Prifysgol Bangor yn Gwobrwyo Arweinydd Cyfoed y Flwyddyn 2012
Mae Rebecca Earnshaw wedi’i henwi’n enillydd gwobr Arweinydd Cyfoed y Flwyddyn 2012 ym Mhrifysgol Bangor, i gydnabod y gefnogaeth wych mae wedi’i rhoi i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf yn y Brifysgol.
Mae Rebecca (20) yn fyfyriwr Almaeneg ail-flwyddyn yn Ysgol Ieithoedd Modern. Cyn cychwyn ar ei hastudiaethau yn y Brifysgol, mynychodd Goleg Pursglove, Guisborough. Derbyniodd darian a gwerth £50 o docynnau siop Stryd Fawr fel gwobr.
Mae Cynllun Arweinwyr Cyfoed Prifysgol Bangor yn cynorthwyo myfyrwyr newydd wrth iddynt ymaddasu i fywyd prifysgol. Mae’n eu paru â myfyrwyr sydd eisoes yn y Brifysgol, ac sydd wedi derbyn hyfforddiant arbennig i’w galluogi i gynorthwyo eu cyd-fyfyrwyr. Gyda mwy na 450 o fyfyrwyr yn cymryd rhan, mae hwn yn un o’r cynlluniau mwyaf o’i fath yn y wlad.
Mae’r Arweinwyr Cyfoed yn helpu’r myfyrwyr newydd i gymdeithasu, a dysgu eu ffordd o gwmpas y ddinas a’r Brifysgol. Gallant gyfeirio’r myfyrwyr newydd at wybodaeth neu gefnogaeth ychwanegol os bydd angen.
“Mae ymrwymiad yr Arweinwyr Cyfoed a’u cyfraniad at fywyd Prifysgol Bangor yn amhrisiadwy,” meddai Kim Davies, Cydlynydd Arweinwyr Cyfoed o fewn y Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr. “Mae’r Arweinwyr Cyfoed yn trefnu a chynnal digwyddiadau yn ystod yr Wythnos Groeso, ac ar gael i gynorthwyo’r myfyrwyr newydd wrth iddynt ymaddasu i fywyd Prifysgol. Gallant wneud y gwahaniaeth rhwng myfyriwr newydd yn penderfynu aros yn y Brifysgol neu ymadael yn ystod yr wythnosau cyntaf oddi cartref. Maent yn dod yn ffrindiau i’w myfyrwyr, a bydd rhai cysylltiadau’n parhau trwy’r Brifysgol,” ychwanegodd.
Enwebwyd Rebecca am y wobr hon gan y myfyrwyr blwyddyn gyntaf y mae’n gyfrifol fel Arweinydd Cyfoed arnynt. Maent wedi ei henwebu gan ei bod yn hawdd mynd ati ac yn barod i roi cyngor pryd bynnag y bo ei angen, ac mae hi bob amser ar gael ar gyfer y myfyrwyr, hyd yn oed ar un achlysur arbennig, yng nghanol y nos. Dywedodd un o’i henwebwyr y byddai, oni bai am Rebecca, wedi ei chael yn anodd iawn i wneud ffrindiau a bod Rebecca wedi gwneud ei f/blwyddyn gyntaf ym Mangor yn rhwydd ac yn hwyl.
A hithau’n hynod o falch o dderbyn y wobr, dywedodd Rebecca:
“Penderfynais fynd yn arweinydd cyfoed gan fy mod wrth fy modd yn helpu pobl, ac yr oedd yn ffordd o roi rhywbeth yn ôl i’r Brifysgol. Roedd llawer wedi cael eu henwebu, pob un ohonynt wedi gwneud llawer o bethau da, felly mae’n wirioneddol anhygoel fy mod wedi ennill yr anrhydedd hwn. Rwyf wedi gwneud tri ffrind da, ac rydym wedi cadw mewn cysylltiad agos dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae bod yn arweinydd cyfoed yn bleserus iawn ac yn werth chweil, byddwn yn canmol y gwaith wrth unrhyw un.”
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mai 2012