Prifysgol Bangor yn gwobrwyo effaith eithriadol ei gweithgareddau ymchwil a menter
Dyfarnwyd gwobrau i brojectau ymchwil ym Mhrifysgol Bangor sydd wedi rhoi budd i gymunedau yn lleol ac yn fyd-eang, wrth i Brifysgol Bangor gynnal ei thrydedd Noson Wobrwyo Effaith ac Arloesi ar 3 Rhagfyr.
Mae’r gwobrau pwysig hyn ym Mhrifysgol Bangor yn cael eu rhoi i gydnabod a dathlu’r effaith y mae ymchwil, arloesi a mentergarwch y brifysgol yn eu cael ar yr economi a’r gymuned yn fwy eang. Eleni, mae’r Brifysgol wedi sefydlu categori newydd, sef Cyfraniad Neilltuol i Gymru, i nodi gweithgareddau sydd wedi bod o bwysigrwydd cenedlaethol i Gymru.
Project sy’n rhoi gwybodaeth i Lywodraeth y DU, a chyrff eraill, i gynorthwyo gyda rheoli gwarchodfa fôr fwyaf y byd a enillodd wobr y Brifysgol am Effaith Orau ar Bolisi Cyhoeddus ac/neu Wasanaethau Cyhoeddus. Noddwyd y wobr hon gan Gyfrif Cyflymu Effaith ESRC.
Mae gan Warchodfa Fôr y Chagos, sef rhan o fôr gymaint â Ffrainc o ran arwynebedd sy’n amgylchynu Ynysoedd Chagos yng Nghefnfor India, ddyfroedd glân a phur gyda riffiau cwrel nad ydynt bron wedi eu niweidio o gwbl. Defnyddir y warchodfa hon fel safle cyfeirio byd-eang, gan weithredu fel llinyn mesur i wrthwneud y difrod i ecosystemau mewn mannau eraill. Mae’n gweithredu hefyd fel hafan i rywogaethau sy’n ail-hadu rhannau o’r cefnfor sydd wedi dirywio – rhannau y mae miliynau o bobl yn dibynnu arnynt am eu bywoliaeth.
Mae Dr John Turner o Ysgol Gwyddorau Eigion y Brifysgol yn cyd-arwain y gwaith gyda Phrifysgol Warwick, a’r Zoological Society of London, gyda chymorth tîm rhyngwladol. Yn ystod eu teithiau ymchwil i’r ardal anghysbell hon, maent yn cael cyfle prin i asesu ecosystem sy’n gweithredu’n naturiol yn absenoldeb unrhyw ddylanwad dynol, er mwyn deall pa mor gadarn y mae ecosystemau’n gallu ymateb i newid hinsawdd. Mae’r tîm hefyd yn gweithio gyda chymunedau o ynysoedd y Chagos sy’n awr yn byw yn y DU a Mauritius er mwyn eu cynnwys yn y gwaith cadwraeth a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwarchodfeydd môr mawr i ddiogelu cyfoeth y cefnforoedd i genedlaethau’r dyfodol.
Roedd deg mil o arddwyr amatur ar draws Prydain wedi tyfu math newydd o domato blasus, sydd yn aeddfedu’n fuan ac sydd yn addas i’w dyfu yn yr awyr agored ym Mhrydain, diolch i broject o Brifysgol Bangor, a oedd yn gweithio ar y cyd gyda busnesau. Enillodd Dr Katherine Steele a Jamie Stroud o’r Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Wobr Arloesi Gorau ym myd Busnes, a noddir gan Siemens Healthcare Diagnostics, am ddatblygu’r tomato Crimson Crush. Mae’r planhigyn, sydd yn gallu gwrthsefyll malltod, bellach yn cael ei werthu gan un o brif gyflenwyr hadau planhigion.
Datblygwyd y project fel Ysgoloriaeth Ymchwil KESS rhwng yr Ysgol, y Sárvári Research Trust a Burpee Europe. Gwerthwyd 36,000 o blanhigion yn y DU yn 2015 ac mae 1.2 miliwn o hadau eisoes wedi eu gwerthu ar gyfer tymor 2016. Disgwylir i werthiannau gyrraedd rhwng 3 a 4 miliwn o hadau'r flwyddyn wrth i gynhyrchu hadau gynyddu i gwrdd â’r gofyn. Bydd hyn yn galluogi tyfwyr i dyfu tomatos yn yr awyr agored heb angen defnyddio cemegau lladd ffwng ar eu planhigion.
Dyfarnwyd y wobr am Effaith Ddiwylliannol a Chymdeithasol Orau i Dr Einir Young a Gwenan Griffith, o Lab Cynaladwyedd y Brifysgol.
Yn dilyn cais am gefnogaeth, ymunodd y Lab Cynaladwyedd mewn partneriaeth gyda saith safle treftadaeth yn Llŷn fis Ebrill 2014 i sefydlu ecoamgueddfa gyntaf Cymru a’r ecoamgueddfa wirioneddol ddigidol gyntaf yn unrhyw le yn y byd.
Prif nod y project yw cynnal busnesau twristiaeth yr ardal o boptu’r prif dymor ymwelwyr. Roedd amcangyfrif ceidwadol yn awgrymu y gall hyn gynyddu refeniw o £2 filiwn drwy dwristiaeth ddiwylliannol.
Er mwyn gwireddu hyn bu i bartneriaid #Ecoamgueddfa adnabod yr angen i gydlynu a chyd-farchnata’r ‘cynnig’ i ymwelwyr â Llŷn. Mae pecyn marchnata digidol wedi ei ddatblygu ar gyfryngau cymdeithasol, gydag apps a gwefannau wedi eu datblygu ar gyfer marchnadoedd Cymreig ac Ewropeaidd. Yn ystod yr ychydig amser ers sefydlu’r fenter, mae dros 150,000 o bobol yn fyd-eang wedi cael cyfle i weld cyfathrebiadau gan yr #Ecoamgueddfa.
Mae’r farddoniaeth hynaf sydd wedi goroesi yn yr iaith Gymraeg wedi cael sylw arbennig gan ddefnyddio’r cyfryngau diweddaraf i ddarparu adnoddau dysgu aml-gyfrwng ar gyfer myfyrwyr Safon Uwch Cymraeg (iaith gyntaf). Yr Athro Peredur Lynch o Ysgol y Gymraeg a fu’n arwain y project i CBAC i ddatblygu deunyddiau cwrs newydd a fyddai’n cyfoethogi’r profiad o addysgu ac astudio rhai o glasuron llenyddol yr Oesoedd Canol gan Aneurin, Taliesin a Dafydd ap Gwilym. Am hyn derbyniodd y Wobr am Gyfraniad Nodedig i Gymru.
Gofynnwyd i’r Athro Peredur Lynch arwain y project, a noddwyd gan Lywodraeth Cymru, ac roedd hyn yn gyfle iddo gyfuno dros 30 mlynedd o ddysgu ac ymchwilio ganddo ef ei hun, ynghyd ag arbenigaeth eraill, er mwyn cyflwyno’r rhan hon o’r cwrs mewn ffordd arloesol a chyffrous i athrawon a myfyrwyr, gydag offer aml-gyfrwng ar-lein yn cynnig gogwydd newydd ar lenyddiaeth Cymraeg cynnar.
Wedi ei lansio fis Mawrth 2014, mae’r adnodd ar-lein newydd ar gael nid yn unig ar gyfer athrawon a myfyrwyr, ond hefyd fel adnodd sydd ar gael am ddim i bawb sy’n ymddiddori mewn barddoniaeth Gymraeg gynnar. Bellach, yr adnoddau hyn yw’r brif ffynhonnell ar gyfer astudio’r Gododdin ar gyfer myfyrwyr lefel A, neu eu hathrawon a darlithwyr.
Wrth gyflwyno’r Gwobrau dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro John G Hughes:
“Rydym wedi gweld enghreifftiau gwych o effaith ein hymchwil ar fywydau pobl, ac rwyf wedi rhyfeddu at safon gwaith ein henillwyr a’r holl ymchwilwyr yn y rownd derfynol, sydd yn gweithio efo partneriaid a busnesau. Flwyddyn er i ganlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil y DU gydnabod effaith fawr ein hymchwil o amgylch y byd, drwy bennu fod mwy na thri chwarter ein hymchwil naill ai gyda’r orau yn y byd neu’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol, rydym yn parhau i gynnal gwaith ymchwil arloesol, sydd yn gwneud gwahaniaeth. Mae ein hymchwil yn cael effaith yn y rhanbarth, yng Nghymru, ond hefyd mewn sawl gwlad o amgylch y byd.”
“Mae ansawdd y gwaith a wneir gan ein hacademyddion wedi cael argraff fawr arnaf ac rwyf eisiau llongyfarch pawb ar y rhestr fer ar gyfer y gwobrwyon pwysig yma heno.”
Dyddiad cyhoeddi: 4 Rhagfyr 2015