Prifysgol Bangor yn gwobrwyo staff am Ragoriaeth Ymchwil
Am y tro cyntaf mae digwyddiad wedi cael ei gynnal i ddathlu a gwobrwyo rhagoriaeth yr ymchwil a gynhyrchir gan Brifysgol Bangor.
Yn y noson wobrwyo newydd rhoddwyd sylw haeddiannol i rai o ymchwilwyr unigol a thimau ymchwil gorau’r Brifysgol.
Pwrpas y gwobrau yw dathlu llwyddiannau unigol staff academaidd y Brifysgol ar adegau gwahanol yn eu gyrfaoedd, gan gynnwys sêr newydd addawol, myfyriwr doethurol a Gwobr Cyfraniad Oes. Hefyd dyfarnwyd gwobrau am brojectau penodol, un ar gyfer project neu raglen eithriadol ym maes y Gwyddorau, un arall gyfer y Celfyddydau a’r Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol a hefyd Gwobr ar gyfer Project rhyngwladol.
Meddai’r Athro John G Hughes, Is-ganghellor y Brifysgol:
“Mae ymchwil yn rhan annatod o’n haddysgu ac yn rhywbeth mae ein staff yn gwbl ymroddedig iddi. Mae ein hymchwil yn cael effaith sylweddol ar fywydau pobl yn lleol a thrwy’r byd, ac mae’r gwobrau hyn yn rhoi cyfle gwych i ni gydnabod a gwerthfawrogi’r gwaith ymchwil sy’n mynd ymlaen yma, sydd gyda’r gorau yn y byd.”
Dyfarnwyd Gwobr Cyfraniad Oes gyntaf y Brifysgol i’r Athro John Simpson o’r Ysgol Gwyddorau Eigion. Mae gyrfa’r Athro Simpson yn y Brifysgol yn ymestyn dros hanner canrif a mwy. Mae ei waith yn ystod ei yrfa wedi gyrru maes eigioneg ffisegol yn ei flaen yn gyson, a gellir dadlau iddo, drwy ei gyfraniadau helaeth yn ystod ei yrfa, greu’r sylfaen ar gyfer astudiaethau cyfoes ym maes eigioneg ffisegol ac hefyd wedi helpu i sicrhau safle Bangor fel un o arweinwyr y byd ym maes tyrfedd yn y môr.
Meddai’r Athro Simpson: “Rwy’n falch iawn o dderbyn y Wobr, nid yn unig drosof i fy hun, ond dros yr holl gydweithwyr a myfyrwyr sydd wedi gweithio gyda mi dros y blynyddoedd i wella ein gwaith a gosod Gwyddorau Eigion Bangor ymysg canolfannau Eigioneg mwyaf rhagorol yn y byd.”
Mae llwyddiannau’r Athro Simpson wedi cael eu cydnabod drwy nifer o wobrau gan gynnwys enwi swm ffisegol ar ei ôl, sef y ‘Rhif Simpson’, sydd yn ymwneud â mesur effaith llif dŵr croyw drwy aberoedd i’r môr.
Dyfarnwyd y Wobr Rhagoriaeth mewn Gwyddoniaeth gyntaf i Dr Charles Bishop o’r Ysgol Gwyddorau Biolegol. Mae Dr Bishop wedi arwain grwpiau ymchwil rhyngwladol er mwyn gwella ein dealltwriaeth o ehediad adar yn ystod teithiau anhygoel trwy aer tenau neu dros gefnforoedd maith. Mae ei waith wedi canolbwyntio ar daith yr ŵydd benrhesog, wrth iddi fudo ar draws mynyddoedd yr Himalaya, a’r aderyn ffrigad mawr sydd yn aros ar yr adain am wythnosau ar y tro gan ddefnyddio cerrynt aer uwchben Cefnfor India.
Meddai Dr Bishop:
Rwy'n falch iawn bod ein gwaith ar sut y gall amodau amgylcheddol gwahanol effeithio ar batrymau hedfan a mudo adar wedi cael ei gydnabod drwy'r wobr hon am ragoriaeth ymchwil o Brifysgol Bangor. Hoffwn ddiolch i'r holl bobl hynny sydd wedi cyfrannu dros y blynyddoedd, gartref a thramor, ac rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu at ddarganfyddiadau ymchwil yn y dyfodol. "
Derbyniodd yr Athro Carol Tully o’r Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern y Wobr gyntaf am Ragoriaeth Ymchwil yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau am Teithwyr Ewropeaidd i Gymru 1750-2010. Roedd y project rhyngddisgyblaethol hwn, a gyllidwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, yn edrych ar hanesion teithio o’r cyfnod sydd heb eu hastudio o’r blaen er mwyn ailddiffinio canfyddiadau o Gymru. Trefnwyd arddangosfa celf deithiol hefyd i gyd-fynd â’r gwaith oedd yn rhoi arddangosiad gweledol o argraffiadau ymwelwyr i Gymru dros gyfnod o 260 o flynyddoedd.
Medai’r Athro Carol Tully: “Rwyf wrth fy modd bod y project Teithwyr Ewropeaidd i Gymru wedi derbyn cydnabyddiaeth yn y modd hwn. Mae wedi bod yn esiampl wych o ymchwil ar y cyd yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau a bydd yn siŵr o gael effaith economaidd a diwylliannol. Roedd yn waith tîm o’r cychwyn, ac mae gweithio efo cydweithwyr yng nghymunedau academaidd a diwylliannol ar draws Cymru a thu hwnt wedi bod yn brofiad gwych.”
Dyfarnwyd y Wobr Rhagoriaeth Ymchwil ryngwladol i’r Athro Peter Golyshin o’r Ysgol Gwyddorau Biolegol am broject Ewropeaidd a arweiniwyd ganddo i chwilio amgylcheddau eithafol yn y môr am ficrobau newydd y gellid eu defnyddio mewn biodechnoleg. Arweiniodd y project llwyddiannus hwn at broject arall sylweddol a gyllidir gan yr UE, ac sydd ar waith ar hyn o bryd.
Eglurodd yr Athro Peter Golyshin, cydlynydd y project MAMBA a gyllidwyd o dan Fframwaith Ymchwil UE7: “Mae ein project rhyngddisgyblaethol wedi dwyn ynghyd grwpiau ymchwil blaenllaw mewn microbioleg ar ffin bywyd, biocemeg, biocatalysis ac ymchwil cyffuriau o chwe gwlad Ewropeaidd a Chanada. Mae wedi datgelu mecanweithiau gweithredu newydd micro-organebau ar ffiniau thermodynamig bywyd ac mae wedi cynhyrchu llu o adnoddau ar gyfer biochwilio am ensymau newydd a chyfansoddion bioactif y gall academia a diwydiant eu chwilio er mwyn eu defnyddio ym meysydd fferylliaeth, bwyd, porthiant anifeiliaid ac amaethyddiaeth ".
Dr James McDonald o’r Ysgol Gwyddorau Biolegol oedd enillydd Gwobr Seren Newydd. Mae'r Wobr hon yn dathlu cyfraniad academyddion ar ddechrau eu gyrfa sydd wedi dangos addewid o ran arwain y maes yn y dyfodol. Mae James McDonald yn prysur wneud enw iddo ei hun yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ym maes ecoleg microbaidd.
Meddai Dr McDonald: "Rwy'n falch iawn i dderbyn y Wobr Seren Newydd ac fe hoffwn ddiolch i fy nhîm ymchwil a fy nghydweithwyr am greu amgylchedd cefnogol ym Mhrifysgol Bangor lle y gall ymchwilwyr cyfnod cynnar ffynnu."
Dyfarnwyd Y Wobr am Ragoriaeth Ymchwil Doethurol i Dr Claire Szostek, myfyrwraig o’r Ysgol Gwyddorau Eigion am ei gwaith gyda physgotwyr y Sianel i ddeall lefelau pysgota cynaliadwy yn y bysgodfa cregyn bylchog. Treuliodd Claire gryn dipyn o amser yn cyfarfod pysgotwyr ac ar fwrdd llongau pysgota cregyn bylchog masnachol. Ymysg allbynnau eraill, mae ei gwaith wedi arwain at y map meintiol cyntaf erioed o ddosbarthiad gweithgarwch pysgota’r glannau am gregyn bylchog ar draws y Sianel.
Meddai Dr Szostek: “Rwy'n teimlo'n falch iawn o dderbyn y wobr hon ac yn freintiedig iawn o fod wedi cael y cyfle i ymgymryd â’r project hwn, sydd wedi cynnig amrywiaeth mawr o heriau a chyfleoedd. Mae'r llwyddiannau a’r allbynnau ymchwil newydd yr ydym wedi eu cyflawni yn dyst i'r berthynas gadarnhaol rydym wedi ei datblygu, ac yn ei chynnal, gyda'r diwydiant pysgota yn y DU. Mae llawer o bysgotwyr a chwmnïau prosesu wedi rhoi o’u hamser, eu harbenigedd a’u harian i alluogi casglu data gwyddonol o ansawdd uchel. Yr wyf yn diolch i’m goruchwyliwr gwych yr Athro Michel Kaiser am ei weledigaeth, ei arbenigedd a’i gyngor a’i gefnogaeth gyson drwy gydol y project ac i’r cyd-oruchwylwyr Dr Lee Murray a Dr Ewen Bell. Mae gan Brifysgol Bangor adrannau ymchwil gyda’r gorau yn y byd ac rwy'n falch o fod wedi cwblhau fy PhD yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion."
Meddai’r Athro Jo Rycroft-Malone, Dirprwy Is-ganghellor, Ymchwil ac Effaith,:
“Mae’r enillwyr yn y noson wobrwyo gyntaf hon yn dyst i’r ffaith fod ymchwil ym Mhrifysgol Bangor yn blodeuo ac yn ffynnu. Mae’n bleser cael gwerthfawrogi a gwobrwyo ein hymchwilwyr gorau a symbylu eraill.”
Yn dilyn y noson wobrwyo gyntaf hon, bydd y Gwobrau Rhagoriaeth Ymchwil yn cael eu cynnal bob yn ail flwyddyn â gwobrau Effaith ac Arloesi'r Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Rhagfyr 2016