Prifysgol Bangor yn helpu diogelu adneuwyr a sicrhau sefydlogrwydd ariannol yn Nigeria ac ar draws Affrica
Y Nigerian Deposit Insurance Corporation yn ymweld â Phrifysgol Bangor.
Mae Prifysgol Bangor yn falch iawn o fod wedi croesawu ymwelwyr o'r Nigerian Deposit Insurance Corporation (NDIC).
Mae'r NDIC, a sefydlwyd ym 1988, yn asiantaeth annibynnol o Lywodraeth Ffederal Nigeria sydd â'r nod o gynnal sefydlogrwydd y system ariannol, diogelu adneuwyr a gwarantu talu cronfeydd yswiriedig. Mae'r gorfforaeth wedi cymryd camau breision yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan ddod yn esiampl o arfer da ledled Affrica a chynnig arweiniad a hyfforddiant i lawer o gorfforaethau yswiriant eraill tebyg ar draws y cyfandir.
Yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, mae dros 120 o weithwyr NDIC wedi dilyn rhaglen MBA Banciwr Siartredig ym Mhrifysgol Bangor neu'n gwneud hynny ar hyn o bryd. Mae'r cwrs MBA Banciwr Siartredig yn roi cyfle i fyfyrwyr ennill cymhwyster deuol unigryw sy'n cynnwys MBA o Fangor ynghyd â statws banciwr siartredig proffesiynol gan y Chartered Bankers Institute a'r Chartered Bankers Institute of Nigeria. Ers ei sefydlu yn 2011, mae dros 1000 o fyfyrwyr o 82 o wahanol wledydd wedi dilyn y cwrs MBA Banciwr Siartredig arloesol hwn.
Wrth sôn am yr ymweliad, meddai'r Athro John Ashton, Cyfarwyddwr Rhaglen MBA Banciwr Siartredig. Mae'n fraint cael croesawu uwch reolwyr o'r Nigerian Deposit Insurance Corporation. Ym Mhrifysgol Bangor, rydym yn cydnabod y gwaith rhagorol a wnaed gan y Nigerian Deposit Insurance Corporation yn Nigeria ac ar draws Affrica. Ein nod yw cefnogi a chynorthwyo myfyrwyr o'r NDIC am flynyddoedd lawer i ddod."
Llun: o'r chwith i'r dde. Mansur Yusuf Gwadabe (Dirprwy Reolwr, Adran Adnoddau Dynol, NDIC), Mrs Davies, yr Athro Iwan Davies, (Is-ganghellor, Prifysgol Bangor), yr Athro Jon Williams (Ysgol Busnes Bangor), yr Anrh. Omolala Ambiola-Edewor (Cyfarwyddwr Gweithredol, Gwasanaethau Corfforaethol, NIDC) a Stephen Jones (Ysgol Busnes Bangor).
Dyddiad cyhoeddi: 21 Tachwedd 2019