Prifysgol Bangor yn lansio Sefydliad Confucius unigryw
Mae’r Sefydliad Confucius cyntaf yn unlle yn y byd i ganolbwyntio ar y Gyfraith i’w agor yn swyddogol ym Mhrifysgol Bangor.
Lensir Sefydliad Confucius gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yng ngŵydd Mr SHEN Yang, Gweinidog-Cwnselydd Llysgenhadaeth Tsieina.
Bydd dirprwyaeth o sefydliad cyfrannog Prifysgol Bangor, Prifysgol Tsieina dros Wyddor Wleidyddol a Chyfraith, dan arweiniad ei Llywydd, yr Athro HUANG Jin, yn ymweld â Bangor yn unswydd ar gyfer y seremoni agoriadol. Bydd y digwyddiad yn cynnwys perfformiadau o ganeuon gwerin a dawnsiau Tsieineaidd gan Brifysgol Yuannan, perfformiad o galigraffi gan yr Athro SUN He o Brifysgol Tsieina dros Wyddor Wleidyddol a Chyfraith, caligraffydd adnabyddus yn Tsieina, a pherfformiad arbennig gan Gôr Meibion adnabyddus Hogia’r Ddwylan.
Meddai’r Prif Weinidog:
“Bydd Tsieina’n fwyfwy pwysig i ddyfodol Cymru, ac mae’r Sefydliad Confucius hwn, sef y cyntaf yn y byd i ganolbwyntio ar y gyfraith, yn hwb mawr o ran creu mwy o gysylltiadau rhwng ein dwy wlad.
“Rwy’n dymuno’r gorau i’r Sefydliad, wrth iddo ddod yn bont ddiwylliannol newydd sy’n datblygu ein perthynas a’n dealltwriaeth o hanes a diwylliant ein gilydd.”
Yna, cynhelir wythnos o weithgareddau a fydd yn agored i’r cyhoedd, i nodi pwysigrwydd yr achlysur. Cynhelir y gyfres o Seminarau am ddim rhwng 11 a 14 Medi yn Neuadd Powis o fewn y Brifysgol. Mae’r digwyddiadau hyn yn adlewyrchu’r gweithgareddau diwylliannol y bydd y Sefydliad yn eu cynnal mewn ysgolion ac yn y gymuned. Maent yn cynnwys diddordebau megis caligraffi Tsieineaidd, cerddoriaeth Tsieineaidd, coginio Tsieineaidd, dillad Tsieineaidd, dawns Tsieineaidd, hanes Tsieineaidd a sinema Tsieineaidd.
Ceir manylion am y digwyddiadau hyn ar www.bangor.ac.uk/confucius-institute neu dan bennawd y digwyddiadau diweddaraf yn http://www.bangor.ac.uk/index.php.cy
Meddai Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro John G. Hughes:
“Mae hwn yn ddatblygiad o bwys i Brifysgol Bangor. Mae Sefydliadau Confucius yn lledaenu dealltwriaeth am iaith a diwylliant Tsieina. Maent wedi dod yn llwyfan ar gyfer teithiau cyfnewid diwylliannol rhwng Tsieina a’r byd. Bydd y sefydliad ym Mangor yn cyflawni swyddogaeth allweddol wrth rannu diwylliant a dysg Tsieineaidd ag ysgolion a sefydliadau diwylliannol yng Ngogledd Cymru a Gogledd-Orllewin Lloegr, wrth iddo ddatblygu rhaglen o weithgareddau diwylliannol. Bydd Sefydliad Confucius ym Mangor yn gyfle heb ei ail i’n myfyrwyr a’r gymuned leol ddysgu am lawer o agweddau trawiadol ar ddiwylliant Tsieina, gan wella’r cysylltiadau rhwng ein dwy wlad.”
Crëwyd y Sefydliad yn dilyn cyswllt rhwng dirprwyaeth o brifysgol Bangor, sef yr Is-Ganghellor, John Hughes, yr Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor, a Dr Wei Shi, Darlithydd yn y Gyfraith ym Mangor, a fu’n ymweld â’r Athro Huang, Llywydd Prifysgol Tsieina dros Wyddor Wleidyddol a Chyfraith, un o’r prifysgolion uchaf eu parch yn Tsieina.
Meddai Prifysgol Tsieina dros Wyddor Wleidyddol a Chyfraith, yr Athro HUANG Jin:
Mae Prifysgol Bangor yn enwog am ei thraddodiad diwylliannol a’i haddysg o ansawdd uchel, tra bo Prifysgol Tsieina dros Wyddor Wleidyddol a Chyfraith yn Brifysgol flaenllaw o fewn addysg gyfreithiol yn Tsieina. Credaf y bydd creu Sefydliad Confucius â ffocws ar y Gyfraith yn dyfnhau’r cydweithrediad a’r cysylltiad rhwng y ddau sefydliad, yn ogystal â rhwng y ddwy wlad.”
Meddai’r Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor:
“Yn ogystal â’r rhaglen ddiwylliannol Tsieineaidd nodedig o ddigwyddiadau a theithiau cyfnewid y mae’r Sefydliad yn bwriadu ei darparu, y canolbwynt neilltuol ar y gyfraith yw nodwedd unigryw Sefydliad Confucius ym Mangor. Bydd y Sefydliad yn gymorth i ledaenu dealltwriaeth ynglŷn â Chyfraith Tsieineaidd a chyfundrefn gyfreithiol Tsieina, mewn ymgais i feithrin cyd-ddealltwriaeth wrth i gysylltiadau masnachol dyfu rhwng y Deyrnas Unedig a Tsieina.
“Yn y dyfodol agos, byddwn yn lansio cwrs gradd LLB mewn Cyfraith ac Astudiaethau Tsieineaidd. Bydd Sefydliad Confucius yn llwyfan ddelfrydol ar gyfer helpu myfyrwyr o wledydd Prydain sy’n astudio’r Gyfraith i ddysgu Tsieinëeg ac, ar yr un pryd, i ddeall mwy am gyd-destun diwylliannol y Gyfraith. Mae’r ddealltwriaeth hon yn hanfodol bwysig ar gyfer unrhyw ddarpar-gyfreithiwr ag uchelgeisiau rhyngwladol.”
Dyddiad cyhoeddi: 10 Medi 2012