Prifysgol Bangor yn lansio Ystafelloedd Dosbarth Confucius
Bu Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn dathlu lansiad swyddogol pum ystafell ddosbarth Confucius newydd yr wythnos hon gyda chynrychiolwyr o Brifysgol Bangor, Llywodraeth Cymru a'r Llysgenhadaeth Tsieineaidd yn bresennol ynghyd â phlant ysgol lleol.
Mae'r pum ysgol sy'n rhan o gynllun Ystafelloedd Dosbarth Confucius wedi eu lleoli ar draws gogledd Cymru ac maent yn cynnwys dwy ysgol uwchradd leol, Ysgol Friars ym Mangor ac Ysgol Uwchradd Caergybi, a thair ysgol gynradd, Ysgol Ein Harglwyddes ym Mangor, Ysgol Esgob Morgan yn Llanelwy ac Ysgol Hiraddug yn Nyserth.
Menter gan Hanban, asiantaeth ddiwylliannol Tsieina, yw Ystafelloedd Dosbarth Confucius ac maent wedi eu lleoli mewn ysgolion a cholegau ar draws y byd. Eu bwriad yw bod yn ganolfannau lleol i ysgogi a chefnogi addysgu a dysgu arloesol ym maes iaith a diwylliant Tsieina ar draws cymunedau.
Meddai Cyfarwyddwr Sefydliad Confucius, Dr David Joyner, wrth ymateb i'r dyfarniad diweddar:
"Rydym yn falch iawn o fod wedi sicrhau cyllid i bump o'r 60 ystafell ddosbarth Confucius ledled y byd. Mae hon yn wobr bwysig iawn i ni, yn enwedig gan mai dyma ein hystafelloedd dosbarth Confucius cyntaf, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'r ysgolion dan sylw wrth iddynt ddechrau ar y gwaith o ddatblygu eu canolfannau dysgu Tsieineaidd eu hunain."
Ddydd Gwener, 16 Mehefin bydd cynrychiolwyr o bob ysgol yn dod i seremoni lansio swyddogol ym Mhrifysgol Bangor, yng nghwmni Ken Skates AC, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi a Seilwaith, a LI Xiaopeng, o Adran Addysg Llysgenhadaeth Tsieina. Roedd dirprwyaeth o brifysgol bartner Sefydliad Confucius, y China University of Political Science and Law (CUPL) yn Beijing, hefyd yn bresennol yn ogystal â Derek Hainge, Maer Bangor.
Meddai Ken Skates AC, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi a Seilwaith:
"Mae Sefydliadau Confucius yn cynnig cyfle pwysig i bobl, cymunedau, busnesau a sefydliadau o Ogledd Cymru i ddysgu mwy am y Tsieina fodern a’r glasurol.”
"Mae'r stafelloedd dosbarth newydd hyn yn rhoi cyfle gwerthfawr i ni allu parhau i adeiladu ar ein cysylltiadau diwylliannol ac economaidd sefydlog hir gyda Tsieina, a byddant yn ffurfio rhan bwysig o'n gwaith i gynyddu y cysylltiadau masnach rhyngom."
Mae'r pum ysgol wedi bod yn gweithio gyda Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor ers peth amser bellach ac, yn sgil yr ystafelloedd dosbarth Confucius newydd, bydd myfyrwyr a staff yn gallu elwa o raglen ehangach sy'n ymwneud â chyfnewid, addysg ddiwylliannol ac iaith Tsieineaidd. Dros y tymor hwy, rhagwelir y bydd pob ysgol yng ngogledd Cymru yn cael cyfle i fynd i Ystafell Ddosbarth Confucius a manteisio ar yr adnoddau gwerthfawr y mae'r canolfannau hyn yn gallu eu cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mehefin 2017