Prifysgol Bangor yn lawnsio Cynllun Interniaeth Is-raddedig
Mae Prifysgol Bangor wedi lawnsio Cynllun Interniaeth Is-raddedig er mwyn cynnig cyfleoedd a gwella cyflogadwyedd myfyrwyr.
Mae 31 interniaeth ar gael i fyfyrwyr is-raddedig fel rhan o'r cynllun a fydd yn cymryd lle rhwng Ionawr 28ain - Mehefin 30eg 2013. Bydd pob interniaeth yn para 150-180 awr (oni bai ei fod wedi ei nodi fel arall) - bydd oriau wythnosol pob interniaeth yn amrywio ond ni fyddant yn mynd dros 20 awr yr wythnos yn ystod y tymor.
Bydd yr interniaethau yn cael eu talu £8 yr awr ac yn gymwys am 25xp yng Ngwobr Cyflogadwyedd Bangor. Bydd pob myfyriwr is-raddedig ym Mangor yn gymwys i wneud cais.
Ewch i http://www.bangor.ac.uk/employability/internsH.php.cy i gael wybodaeth pellach ar y cyfleoedd a sut i wneud cais.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2012