Prifysgol Bangor yn Nhablau Pynciau 10 Uchaf y DU
Yn ogystal â chael ei gosod yn drydedd yng Nghymru yn ôl tabl cynghrair TheCompleteUniversityGuide.co.uk ar gyfer 2018, mae'r Brifysgol hefyd yn ymddangos ymhlith y deg prifysgol orau yn y DU am bum pwnc a gaiff eu dysgu yn y Brifysgol (Amaethyddiaeth & Choedwigaeth, Astudiaethau Celtaidd sef Cymraeg (3ydd), Eidaleg (3ydd), Technoleg Meddygol (4ydd), Polisi Cymdeithasol).
Mae'r canllaw yn ategu’r wybodaeth sydd ar gael i ddarpar fyfyrwyr er mwyn eu helpu gyda'u penderfyniad, gan gynnwys y newyddion diweddaraf bod Prifysgol Bangor wedi ei gosod yn drydedd ym Mhrydain yn ôl y WhatUni Student Choice Awards (Ebrill 2017) ac hefyd wedi ennill gwobr y Clybiau a Chymdeithasau Gorau yn yr un digwyddiad.
Mae'r Brifysgol hefyd ymhlith y 15 uchaf o brifysgolion traddodiadol y DU sy'n cynnig ystod eang o bynciau, yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr blynyddol (Awst 2016).
Dywedodd Simon Emmett, Prif Swyddog Gweithredol Hotcourses Group, a gymerodd TheCompleteUniversityGuide.co.uk drosodd ym mis Hydref 2015: "Mae'r safleoedd a ddarperir gan TheCompleteUniversityGuide.co.uk yn cael eu parchu’n eang ac yn cael eu cyfeirio atynt yn genedlaethol yma ac, yn bwysig iawn, dramor hefyd. Mae tablau cynghrair CUG yn gynyddol yn mwynhau cyd-berthynas â'r WhatUni Student Choice Awards, sy’n wobrau tra gwahanol. Mae'r ddau yn bodoli er mwyn helpu myfyrwyr i wneud un o benderfyniadau pwysicaf eu bywydau – y dewis cywir o ran pwnc a'r brifysgol orau ar eu cyfer nhw."
Dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro John G. Hughes: "Mae'r Brifysgol yn parhau i ddarparu addysg ragorol i’n myfrywyr, wedi ei chyfuno â chymorth a chyfleoedd rhagorol i ddysgu ac ennill profiadau gyrfa yn ystod eu cyfnod yma. Rydym bob amser yn argymell bod darpar fyfyrwyr yn ystyried pob agwedd ar eu profiad yn y brifysgol, ac mae ffynonellau megis tablau cynghrair, arolygon a gwobrau yn ychwanegu’n deilwng at yr argraffiadau gwerthfawr a geir wrth fynychu Diwrnod Agored Prifysgol Bangor.
"Hoffwn unwaith eto longyfarch ein holl staff am eu gwaith caled wrth gyflwyno profiadau rhagorol i fyfyrwyr."
Dyddiad cyhoeddi: 26 Ebrill 2017