Prifysgol Bangor yn parhau i godi drwy dablau Cynghrair Prifysgolion
Adlewyrchir llwyddiant parhaus Prifysgol Bangor yn y tabl Cynghrair Prifysgolion diweddaraf i’w gyhoeddi heddiw gan The Complete University Guide 2016.
Mae The Complete University Guide yn gosod y Brifysgol yn drydydd ymysg prifysgolion Cymru, ac ymysg 60 prifysgol orau Prydain (58), ac mae’n un o ddwy brifysgol yn unig yng Nghymru sydd wedi gwella’i lleoliad ers y llynedd. Mae’r brifysgol hefyd yn ymddangos ymysg y 10 prifysgol orau yn y DU ar gyfer pedwar pwnc penodol.
Mae Prifysgol Bangor yn parhau i godi yn y tablau cynghrair prifysgolion, a chynyddu ei phoblogrwydd ymysg myfyrwyr; dim ond yr wythnos diwethaf llwyddodd y Brifysgol i gipio’r Wobr ar gyfer y Clybiau a’r Cymdeithasau Gorau mewn unrhyw Brifysgol yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni y DU. Mae’r Brifysgol hefyd ar y brig yng Nghymru ac yn safle 14 ym Mhrydain mewn arolwg diweddar ar brofiad myfyrwyr (Times Higher Education Student Experience Survey 2015).
Mae llwyddiannau diweddar eraill Prifysgol Bangor yn cynnwys cael ei gosod ar y brig yng Nghymru, ac yn seithfed yn y DU, yn yr arolwg cenedlaethol ar foddhad myfyrwyr, ar sail boddhad myfyrwyr gyda’u profiad prifysgol, cael ei gosod ymysg y 50 prifysgol orau yn y DU yn ôl Good University Guide 2015 The Times a The Sunday Times, a’i gosod ymysg 100 prifysgol orau’r byd am ogwydd rhyngwladol y Brifysgol. Mewn meysydd eraill, mae’r Brifysgol wedi llwyddo gyda chanlyniadau gwych yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF), a nododd fod mwy na thri chwarter ymchwil Bangor naill ai’n “benigamp” neu’n “rhagorol yn rhyngwladol”. Mae Bangor hefyd yn y 10% uchaf o brifysgolion gwyrddaf y byd ac, yn ddiweddar, wedi ennill Safon Ryngwladol ISO14001 a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Meddai’r Is-ganghellor, yr Athro John G. Hughes: “Rwyf unwaith eto’n falch iawn o’r perfformiad arbennig sydd yn tystio i ansawdd y dysgu ardderchog yn ogystal â’r profiad gwych y mae ein myfyrwyr yn ei gael yma ym Mhrifysgol Bangor.
“Hoffwn ddiolch i staff academaidd ac ategol y Brifysgol unwaith yn rhagor am eu hymdrechion.”
Mae llwyddiannau diweddar i’r Brifysgol yn cynnwys canlyniadau ardderchog yn yr asesiad cenedlaethol o ansawdd ymchwil (REF) a gydnabu fod mwy na thri chwarter ymchwil Bangor naill ai “gyda’r orau yn y byd” neu “yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2015