Prifysgol Bangor Yn Penodi Is-ganghellor
Mae Cyngor Prifysgol Bangor wedi penodi'r Athro Iwan Davies FLSW yn Is-Ganghellor nesaf y Brifysgol. Ef fydd yr wythfed Is-Ganghellor neu Bennaeth yn hanes 135 mlynedd y Brifysgol.
Ar hyn o bryd yr Athro Davies yw'r Uwch Ddirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae'n awdurdod blaenllaw ar gyfraith fasnachol ryngwladol gyda diddordeb arbennig mewn cyllid asedau, eiddo deallusol a chyfraith eiddo personol.
Yn ei rôl bresennol, mae'n gyfrifol am ryngwladoli, datblygiad strategol, adnoddau ac ystadau. Arweiniodd ddatblygiad Campws Gwyddoniaeth ac Arloesedd newydd Prifysgol Abertawe gwerth £450m sydd â phwyslais ar gydweithio rhwng Diwydiant a’r Brifysgol. Mae ganddo enw da am ryngwladoli, mae wedi datblygu nifer o fentrau a phartneriaethau llwyddiannus ar draws y byd, ac mae’n ddeilydd dwy swydd Athro Ymweld yn Tsieina, yn ogystal â phenodiadau rhyngwladol eraill.
Yn raddedig o Brifysgolion Aberystwyth, Caergrawnt a Chaerdydd, mae hefyd yn Fargyfreithiwr, ar ôl cael ei wahodd a'i alw i'r Bar am ei ysgolheictod academaidd gyfreithiol nodedig.
Yn siaradwr Cymraeg rhugl, mae ganddo weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer Prifysgol Bangor, yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
Dywedodd yr Athro Davies: “Mae Prifysgol Bangor yn unigryw o ran ei lleoliad a'i hanes, yn ogystal â'i chryfderau ymchwil ac addysgu sy'n sail i brofiad rhagorol i fyfyrwyr.
“Rwy'n edrych ymlaen at adeiladu ar y cryfderau hyn i greu Prifysgol Ddinesig gref, hyderus sydd nid yn unig yn gwasanaethu Bangor a'i rhanbarth, ond a fydd hefyd yn cyfrannu tuag at drawsnewid Cymru a'r byd.”
“Un o fy mlaenoriaethau cyntaf fydd cyfarfod â'r staff a'r myfyrwyr, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at glywed yn uniongyrchol ganddynt am eu gobeithion ar gyfer y brifysgol dros y blynyddoedd nesaf. Rwy'n credu'n gryf mewn dull o reoli sy'n gynhwysol ac yn seiliedig ar bartneriaeth, a gwn drwy gydweithio fel cymuned y gallwn greu momentwm go iawn, a hefyd wneud Bangor yn gryfach yn ariannol.
Cyhoeddwyd y penodiad heddiw, yn dilyn proses recriwtio dan arweiniad Marian Wyn Jones, Cadeirydd Cyngor Prifysgol Bangor. “Mae'r Athro Davies yn academydd uchel ei barch gyda phrofiad helaeth o arwain, ac mae ganddo brofiad sylweddol o’r sector Addysg Uwch yng Nghymru,” meddai Marian Wyn Jones.
“Gwnaeth argraff dda arnom oherwydd ei weledigaeth glir ar gyfer Prifysgol Bangor fel sefydliad uchelgeisiol a llwyddiannus, ac rwy'n siŵr y bydd yn ffynnu o dan ei arweinyddiaeth.
“Mae'n gyfnod anodd i Addysg Uwch ar hyn o bryd, ac rwy'n siŵr y bydd staff a myfyrwyr y brifysgol yn rhoi eu holl gefnogaeth iddo wrth i ni ddechrau pennod newydd yn hanes y brifysgol. Bydd yr ansicrwydd a'r heriau bob amser yn dod i'r amlwg, fel y dangosir gan Brexit, ond rwy'n hyderus y bydd yr Athro Davies yn arwain Bangor drwy'r cyfnod hwn ac yn creu prifysgol ddeinamig a ffyniannus ar gyfer y rhanbarth, Cymru a’r byd.”
Bydd yr Athro Davies yn dechrau yn ei swydd ar y cyntaf o Fedi a bydd yr Is-Ganghellor Dros Dro, yr Athro Graham Upton yn parhau yn ei swydd tan hynny.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2019