Prifysgol Bangor yn sicrhau cyllid ar gyfer pum Ystafell Dosbarth Confucius
Mae Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor wedi ennill grant ar gyfer pum Ystafell Ddosbarth Confucius mewn ysgolion yng ngogledd Cymru. Dim ond cyllid ar gyfer cyfanswm o 60 ystafell ddosbarth a ddyfarnwyd ledled y byd eleni.
Menter gan Hanban, asiantaeth ddiwylliannol Tsieina, yw Ystafelloedd Dosbarth Confucius ac maent wedi eu lleoli mewn ysgolion a cholegau ar draws y byd. Eu bwriad yw bod yn ganolfannau lleol i ysgogi a chefnogi addysgu a dysgu arloesol ym maes iaith a diwylliant Tsieina ar draws cymunedau.
"Rydym yn falch iawn o fod wedi sicrhau cyllid i bump o'r 60 ystafell ddosbarth Confucius ledled y byd a gyllidir eleni..." meddai Cyfarwyddwr Sefydliad Confucius, Dr David Joyner.
"Mae hon yn wobr bwysig iawn i ni, yn enwedig gan mai dyma ein hystafelloedd dosbarth Confucius cyntaf, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'r pum ysgol dan sylw wrth iddynt gychwyn ar eu taith i ddatblygu eu canolfannau dysgu Tseiniaidd eu hunain."
Mae'r ysgolion llwyddiannus yn cynnwys dwy ysgol uwchradd leol (Ysgol Friars ym Mangor ac Ysgol Uwchradd Caergybi) a thair ysgol gynradd (Ysgol Ein Harglwyddes ym Mangor, Ysgol Esgob Morgan yn Llanelwy ac Ysgol Hiraddug yn Nyserth).
Mae'r pum ysgol wedi bod yn gweithio gyda Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor ers peth amser bellach ac, gyda'r Ystafelloedd Dosbarth Confucius newydd, bydd myfyrwyr a staff ym mhob un o'r ysgolion yn gallu elwa o raglen ehangach yn ymdrin â chyfnewid, dysgu diwylliannol ac iaith Tseiniaidd. Yn y tymor hwy, rhagwelir y bydd pob ysgol yng ngogledd Cymru yn cael cyfle i fynd i Ystafell Ddosbarth Confucius a manteisio ar yr adnoddau gwerthfawr y mae'r canolfannau hyn yn gallu eu cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Medi 2016