Prifysgol Bangor yn sicrhau mwy o gyllid yr UE ar gyfer canolfan ymchwil newydd
Bydd Prifysgol Bangor yn manteisio ar £2.8m arall o gyllid yr UE ar gyfer canolfan wyddoniaeth ac arloesi newydd i roi hwb i ddiwydiant pysgod cregyn Cymru, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford heddiw [dydd Llun 13 Awst].
Bydd cyllid yr UE yn cefnogi ymchwil gwyddonol a thechnoleg wrth sefydlu Canolfan Pysgod Cregyn y Brifysgol, er mwyn helpu'r diwydiant i dyfu yng Nghymru.
Bydd yn helpu i sicrhau gwelliannau i ansawdd dŵr arfordirol; mabwysiadu technoleg a dulliau cynhyrchu newydd ac ehangu i farchnadoedd newydd - pob un yn flaenoriaethau i ddiwydiant pysgod cregyn Cymru.
Wedi'i lleoli yng Nghanolfan Forol Cymru, bydd y ganolfan pysgod cregyn yn adeiladu ar ragoriaeth Prifysgol Bangor mewn gwyddorau arfordirol a morol.
Dros y tair Glynedd nesaf, disgwylir i tua 20 o fusnesau Cymru gymryd rhan mewn rhaglenni ymchwil gwyddonol i gefnogi twf y diwydiant pysgod cregyn.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid:
"Mae ymchwil wedi'i hariannu gan yr Undeb Ewropeaidd yn chwarae rhan hanfodol bwysig i fanteisio i'r eithaf ar yr arbenigedd o fewn ein prifysgolion er mwyn i fusnesau Cymru fod ar y blaen o ran gwyddoniaeth a thechnoleg
"Bydd y buddsoddiad hwn yn gwella gallu busnesau i gystadlu, gan arwain at ddatblygu diwydiant pysgod cregyn cryf a chynaliadwy yng Nghymru."
Dywedodd yr Ysgrifennydd Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:
"Dyma ddiwydiant gwerthfawr sydd eisoes yn dod â manteision economaidd sylweddol i Gymru, ac sydd â'r potensial i dyfu ymhellach gyda chymorth arbenigedd technolegol ac ymchwil wyddonol ein prifysgolion."
Ychwanegodd yr Athro Lewis Le Vay o Brifysgol Bangor:
"Mae gennym hanes hir a llwyddiannus o ymchwil ar y cyd â chynhyrchwyr pysgod cregyn Cymru, ac rydyn ni'n falch iawn bod y fenter newydd a chyffrous hon yn rhoi cyfle i ni adeiladu ar y berthynas gynhyrchiol iawn hon.
"Ein nod hirdymor yw i waddol y ganolfan Pysgod Cregyn fod yn gynaliadwy ac a rei thwf, gan dyfu'r sector cynhyrchu a phrosesu pysgod cregyn yng Nghymru. Gyda chymorth partneriaeth o wyddoniaeth ac arloesi, bydd y fenter hon yn fodd i osod cynhyrchwyr pysgod cregyn Cymru ar y blaen yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol."
Dywedodd James Wilson, cynrychiolydd Cynhyrchwyr Cregyn Gleision Bangor:
"Bydd ein gallu i wrthsefyll effaith Brexit yn dibynnu'n rhannol ar ddealltwriaeth wyddonol o'r radd flaenaf am ein hadnoddau a'r amgylchedd morol. Dylai'r buddsoddiad hwn yn y ganolfan pysgod cregyn helpu i gyflawni hyn."
Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2018