Prifysgol Bangor yn Taflu Goleuni ar Ferched mewn Cerddoriaeth
Eleni bydd Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau, Prifysgol Bangor yn cynnal Ail Gynhadledd Ryngwladol ar Waith Merched mewn Cerddoriaeth. Cynhelir y Gynhadledd ar 4 - 6 Medi, a bydd y Brifysgol yn croesawu siaradwyr a cherddorion blaenllaw, gan gynnwys ysgolheigion, ymarferwyr, cyllidwyr, darlledwyr, newyddiadurwyr a bobl broffesiynol o'r maes cerddorol o bob cwr o'r byd.
Dywedodd yr Athro Chris Collins, Pennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau:
“Fe wnaeth y Gynhadledd Ryngwladol Gyntaf ar Waith Merched mewn Cerddoriaeth yn 2017 ennyn diddordeb mawr ym myd cerddoriaeth ac rydym yn falch o gynnal Ail Gynhadledd ym Mangor eto eleni. Unwaith eto cawsom ymateb gwych gan gynrychiolwyr, ac rydym yn falch o agor rhai o'r uchafbwyntiau i'r cyhoedd."
Mae disgwyl y bydd dau gyngerdd ymhlith yr uchafbwyntiau ac mae dau gyngerdd y Gynhadledd ar agor i'r cyhoedd. Cynhelir cyngerdd i ddathlu gwaith y gyfansoddwraig gyfoes Rhian Samuel ddydd Mercher, y 4ydd o Fedi yn Neuadd Powis am 18.15. Bydd y feiolinydd o fri Madeleine Mitchell - a ddisgrifiwyd gan The Timesfel 'un o rymoedd cerddorol mwyaf bywiog ac un o feiolinyddion mwyaf blaenllaw Prydain' - a'r pianydd hynod Nigel Foster, yn perfformio darnau siambr gwefreiddiol o eiddo Samuel. Bydd y gyfansoddwraig ei hun yn cyflwyno'r gerddoriaeth.
Ddydd Iau 5 Medi, bydd Illuminate, un o gyfresi cyngherddau mwyaf cyffrous Prydain, yn goleuo Prifysgol Bangor. Dyma'r soprano Patricia Auchterlonie a'r Pedwarawd Llinynnol Illuminate yn cyflwyno cyngerdd o ddarnau gan y cyfansoddwyr Joanna Ward, Sarah Westwood, Soul Zisso, Blair Boyd, Caroline Bordignon ac Angela Elizabeth Slater, yn ogystal â gweithiau hanesyddol gan Barbara Strozzi, Rebecca Clarke, Ruth Crawford Seeger, Vivian Fine a llawer mwy!
Mae'r digwyddiad gyda'r nos yn cychwyn yn Neuadd Neuadd Powis am 18.45 gyda sgwrs cyn y cyngerdd gydag Angela Elizabeth Slater, sylfaenydd Illuminate, yn sgwrsio gyda'r gyfansoddwraig a'r beirniad Steph Power.
Dywedodd Dr. Rhiannon Mathias, Darlithydd yn yr Ysgol Gerddoriaeth a'r Cyfryngau, a Threfnydd y Gynhadledd:
“Bydd y ddau gyngerdd agored yn rhoi cyfle i garedigion cerddoriaeth lleol ddod i glywed cerddoriaeth wych yn cael ei pherfformio gan gerddorion dawnus, gan gynnwys caneuon o'r 17egganrif gan y gyfansoddwraig o'r Eidal, Barbara Strozzi a darn diweddaraf Rhian Samuel, un o gyfansoddwyr gorau Cymru."
Rhagor o fanylion am yr Ail Gynhadledd Ryngwladol ar Waith Menywod mewn Cerddoriaeth ar: http://wwm.bangor.ac.uk/
Bydd tocynnau cyngerdd Rhian Samuel (dydd Mercher 4 Medi, Neuadd Powis, 18.15) ar gael ar y drws. Mae tocynnau cyngerdd Illuminate (Dydd Iau 5 Medi, Neuadd Powis, 18.45) ar gael ar-leinwww.pontio.co.uk neu drwy ffonio 01248 38 28 28 neu yn y Swyddfa Docynnau.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Awst 2019