Prifysgol Bangor yn un o ‘3 Lle’ Arbennig Siân James
Y gantores, delynores a chyfansoddwraig, Siân James, sy’n cael cyfle i ddewis y tri lle sydd ag arwyddocâd arbennig iddi hi yn y gyfres 3 Lle i’w weld nos Fercher, 1 Rhagfyr.
Y man cyntaf mae’n ei ddewis yw ei chartref - Gardden, Llanerfyl. “Mae’n lle arbennig sydd wedi bod yn y teulu ers cenedlaethau - ers 1756. Bwthyn bach oedd o’n wreiddiol. Mae 'na hen gaer uwchben y tŷ, a dwi’n amau fod cerrig o’r gaer wedi cael eu defnyddio i’w adeiladu. Fe ges i fy magu yn y pentre’, ym Mryn Tanat, ac roedd nain a taid yn byw fan hyn. Mi ro’n i’n arfer cerdded i fyny i gael clonc gyda Nain. Mi rydan ni wedi darganfod pethau diddorol iawn yn yr hen dŷ, yn cynnwys hen sgidiau plentyn oedd yn draddodiadol yn dod â lwc dda i’r tŷ, a modrwy briodas fy hen nain oedd wedi’i golli am flynyddoedd! Dwi’n cael cyfle rŵan i drosglwyddo’r straeon teuluol i fy mhlant i.
“Mae’r ardal yma wedi bod yn angor i mi erioed. Dyma ydy fy nef. Yma dwi’n cael yr heddwch sydd ei angen arnom i gyd. Dwi’n ddynes lwcus iawn.”
Ail ddewis Siân yw Llanon yng Ngheredigion. Roedd teulu ei mam yn dod o’r pentref. “Capteiniaid llongau oedd fy nghyndeidiau i. Tad-cu oedd y cyntaf i dorri’r traddodiad, fe aeth i weithio i’r banc. Mi gafodd mam fagwraeth anodd iawn ac mi roedd hi’n awyddus i roi’r cyfleoedd i mi na chafodd ei hun. Mi roedden ni’n ffrindiau pennaf, mae gen i drysorfa o atgofion ohoni.”
Y trydydd lle sydd wedi bod yn bwysig ym mywyd Siân yw Coleg Prifysgol Bangor. “Mi roedd dod i Fangor yn gam fawr i lodes fach o Lanerfyl. Doeddwn i ddim yn gwybod beth i ddisgwyl. Mi roedd yn dir newydd go iawn.
“Yno, mi ges i’r cyfle i fynegi fy hun mewn ffordd wahanol iawn. Mi roedd yn gyfnod cyffrous. Mi wnes i ddod nôl i’r Brifysgol yn 2007 pan ges i fy ngwneud yn un o Gymrodorion y Brifysgol ac mi roedd yn brofiad emosiynol iawn. Fan hyn y gwnes i ddatblygu’n gerddorol a datblygu fel person. Dwi’n ddiolchgar iawn i’r lle 'ma!”
3 Lle: Sian James
Nos Fercher 1 Rhagfyr 20:25, S4C
Hefyd, Dydd Gwener 3 Rhagfyr 14:00, S4C
Gwefan:s4c.co.uk/3lle
Dyddiad cyhoeddi: 23 Tachwedd 2010