Prifysgol Bangor yn y 15 uchaf o ran boddhad myfyrwyr
Mae myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi rhoi sgôr o 90% i'r Brifysgol am foddhad cyffredinol, sy'n gosod Bangor ymysg y 15 prifysgol uchaf anarbenigol, sef y sefydliadau traddodiadol sy'n cynnig ystod eang o bynciau, yn y DU. Daw'r canlyniadau hyn o'r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (NSS), sy’n arolwg annibynnol, blynyddol.
Mae'r sgôr yn gosod Bangor yn gydradd â phrifysgolion fel Rhydychen a Chaergrawnt am y drydedd flwyddyn yn olynol ac yn dangos cysondeb yn y lefel uchel o foddhad ymhlith myfyrwyr Bangor. Priodolwyd y llwyddiant gan uwch aelodau staff y Brifysgol i safon uchel yr addysgu a’r profiad a gaiff myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor, ynghyd â pharodrwydd y Brifysgol i gydnabod unrhyw broblemau a gaiff myfyrwyr unigol a rhoi sylw iddynt.
Dywedodd yr Athro Oliver Turnbull, Dirprwy Is-Ganghellor (Addysgu a Dysgu):
"Mae'r canlyniadau hyn yn adlewyrchu safon ragorol yr addysgu a gynigir ym Mhrifysgol Bangor ac mae'n gadarnhad ardderchog o'n gweithgareddau a'n gwerthoedd. Dylai'r data roi gwybodaeth werthfawr i ddarpar fyfyrwyr."
Daw'r canlyniadau o'r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, sy'n arolwg o oddeutu hanner miliwn o fyfyrwyr sy'n graddio o bob prifysgol yn y DU. Mae'r canlyniadau'n cynnig yr adborth mwyaf cynhwysfawr ar brofiad myfyrwyr ym mhob sefydliad, ac yn manylu at lefel ysgol, cwrs a rhaglen ac yn defnyddio gwybodaeth ehangach am feysydd megis addysgu, ac asesu ac adborth.
Dangosai'r canlyniadau fod Prifysgol Bangor yn 4ydd yn y DU am y gefnogaeth academaidd a roddir i fyfyrwyr; ac mae'n gosod Bangor yn yr 20 uchaf o ran addysgu yn ogystal ag asesu ac adborth.
Llwyddodd saith pwnc yn y Brifysgol i ennill graddfa foddhad o 100%, sy'n eu gosod ar frig tabl eu pwnc yn y DU: Astudiaethau Saesneg; Daeareg; Newyddiaduraeth; Ieithyddiaeth; Technoleg Feddygol; Cerddoriaeth; a Gwyddorau’r Eigion. Mae Newyddiaduraeth yn safle rhif 1 yn y DU am y drydedd flwyddyn yn olynol.
Mae saith maes pwnc pellach yn y 10 uchaf yn y DU: Seicoleg (4ydd yn y DU); Peirianneg Electronig; Amaethyddiaeth; Astudiaethau'r Cyfryngau; Cyllid; Athroniaeth; ac Astudiaethau Iberaidd.
Yn nodedig, cafodd saith rhaglen sgôr o 100% am foddhad myfyrwyr: BA Saesneg; BA Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol; BA Astudiaethau Plentyndod; LLB y Gyfraith (gradd 2 flynedd); BSc Radiograffeg Ddiagnostig; BSc Eigioneg Ddaearegol; ac MEng Peirianneg Electronig.
Ychwanegodd yr Athro Turnbull:
"Mae ein llwyddiant eto eleni yn ganlyniad arbennig i ni fel sefydliad, a hoffwn ddiolch i'n graddedigion diweddar am roi cystal adborth am y Brifysgol. "Mae nifer helaeth iawn o staff y Brifysgol drwyddi draw wedi gwneud hyn yn bosib unwaith eto, a dylid eu llongyfarch. Mae hyn yn cynnwys nid yn unig yr academyddion sy’n traddodi’r darlithoedd, ond hefyd y staff technegol sy’n cynnal y labordai, y myfyrwyr PhD sy’n cynorthwyo gyda thiwtorialau, ein gweinyddwyr, Gwasanaethau Myfyrwyr, y Swyddfa Ryngwladol, Undeb y Myfyrwyr, staff Technoleg Gwybodaeth a'r Llyfrgelloedd, y staff Diogelwch, staff mewn Neuaddau ac yn yr Ystadau’n gyffredinol - a llawer mwy.”
Dyddiad cyhoeddi: 10 Awst 2016