Prifysgol Bangor yn y 50 Uchaf
Mae Prifysgol Bangor wedi llamu i fyny’r tablau i gael ei gosod ymysg y 50 prifysgol orau yn y DU yn ôl y Times and The Sunday Times Good University Guide 2015.
Mae hyn yn dilyn newyddion diweddar bod yr Arolwg Cenedlaethol o Foddhad Myfyrwyr (NSS) wedi gosod y Brifysgol ar y brig yng Nghymru o ran boddhad myfyrwyr.
Croesawodd yr Athro John G Hughes, Is-Ganghellor y Brifysgol, y newyddion gan ddweud:
"Mae gennym draddodiad sy’n ymestyn dros 130 o flynyddoedd o ddarparu addysgu a gofal rhagorol i fyfyrwyr, ac rydym yn ymfalchïo mewn ansawdd ein dysgu ac ymchwil ym Mhrifysgol Bangor. Yn ddiweddar rydym wedi cyflwyno mentrau i roi llais cryfach i fyfyrwyr yn y brifysgol, ac mae llwyddiant ein dull o weithredu wedi’i adlewyrchu yn y canllaw.”
Meddai'r Athro Oliver Turnbull, Dirprwy Is-Ganghellor dros Addysgu a Dysgu ym Mhrifysgol Bangor:
Mae llawer o bethau sy’n rhaid i darpar-fyfyrwyr eu hystyried pan fyddant yn dewis prifysgol, gan gynnwys tablau cynghrair. Fodd bynnag, rydym ni’n wastad yn cynghori darpar-fyfyrwyr i ymchwilio drostynt eu hunain ac ymweld â’r prifysgolion hynny sydd ar eu rhestr fer. Rydym yn gobeithio y bydd ymddangosiad y Brifysgol yn y Canllaw yn annog myfyrwyr i ymweld â’r Brifysgol yn ystod ein Dyddiau Agored fis Medi eleni. Mae gweld lle drosoch eich hunan yn gwneud byd o wahaniaeth mewn unrhyw benderfyniad”
Cyhoeddir y prif atodiad Ddydd Sul 21 Medi yn The Sunday Times gydag atodiadau ac erthyglau dilynol yn ymddangos yn The Times rhwng Llun-Iau 22-26 Medi.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Medi 2014