Prifysgol Bangor yn ymateb i'r her
Mae Prifysgol Bangor yn gwneud nifer o wahanol bethau i helpu’r Gwasanaeth Iechyd a’r gymuned leol ymateb i'r argyfwng Coronafeirws ar hyn o bryd.
Meddai’r Is-Ganghellor, yr Athro Iwan Davies: “Mae hyn yn gyfnod anodd dros ben, ac yn ogystal â pharhau i addysgu myfyrwyr dros y wê, rydym wedi bod yn ymateb yn uniongyrchol i gefnogi’r rheng flaen wth iddynt ddelio â’r argyfwng.”
Ymysg y camau mae Prifysgol Bangor yn eu datblygu mae:
• Casglu offer diogelwch (PPE) addas ar gyfer y GIG.
• Defnyddio ein Neuaddau Preswyl fel llety i staff y GIG.
• Ymchwil i drosglwyddiad Covid-19 i gyfleusterau trin gwastraff.
• Gwneud offer labordy arbenigol ar gael er mwyn dadansoddi samplau.
• Darparu hyfforddiant uwch-sgilio mewn gofal critigol i staff y GIG.
• Trefnu cyfleusterau er mwyn casglu gwaed gan wirfoddolwyr.
• Hyrwyddo gwirfoddoli ymhlith staff a myfyrwyr.
• Gweithio gyda phartneriaid ar draws Gogledd Cymru i gynhyrchu mygydau plastig (visors) ar gyfer staff y gwasanaeth iechyd gan ddefnyddio dulliau argraffu 3D.
• Caiff Canolfan Brailsford, canolfan hamdden y Brifysgol, ei throi'n ysbyty dros dro er mwyn darparu gwelyau ar gyfer cleifion sydd â symptomau COVID-19.
Ychwanegodd yr Athro Davies: “Byddwn yn parhau i gydweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a phartneriaid eraill dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf wrth i ni gyd ymateb i’r her sylweddol yma.”
Dyddiad cyhoeddi: 1 Ebrill 2020