Prifysgol Bangor yn ymuno ag Amnest Rhyngwladol i gynnal gweithdy ar wrthdaro arfog
Mae Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor yn ymuno ag Amnest Rhyngwladol i gynnig hyfforddiant arbenigol ar amddiffyn merched a phlant yn ystod gwrthdaro arfog.
Y gweithdy un diwrnod yw’r cyntaf o'i fath i’w gynnig gan Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor ac Amnest Rhyngwladol. Mae’n cyfuno arbenigedd academaidd ac ymarferol i ddarparu golwg unigryw ar bwnc sy'n cythryblu nifer o’r cyhoedd. Oes gan y Gyfraith ran i'w chwarae wrth amddiffyn merched a phlant mewn gwrthdaro arfog? Beth yw rôl honno? Os mae deddfwriaeth yn bodoli, pam fod dioddefaint a’r niwed a achosir i ferched a phlant yn dal i ddigwydd?
Mae’r gweithdy, sydd i’w gynnal ddydd Sadwrn 7 Gorffennaf ym Mhrifysgol Bangor, yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth am yr heriau sy’n wynebu merched a phlant yn ystod gwrthdaro arfog ac yn cyflwyno’r drefn gyfreithiol sydd yn bodoli i fynd i’r afael â’r heriau hynny, ei chryfderau a'i gwendidau, ac yn trafod defnydd ymarferol o wybodaeth a strategaethau.
Mae Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor yn prysur ennill enw da ym maes Cyfraith Ryngwladol, ac mae bellach yn gartref i sawl aelod o staff sy'n arbenigo yn y maes, tra bod aelodau grŵp Amnest Rhyngwladol Bae Colwyn wedi derbyn cydnabyddiaeth am eu gwaith eithriadol yn ystod 2012.
Yn ôl yr Athro Linton, "Mae’r trais ac arswyd yr ydym wedi gweld ar y teledu yn Syria a Libya dros y misoedd diwethaf wedi digwydd droeon o'r blaen, ar draws y byd. Mae’r bobol gyffredin, gan gynnwys merched a phlant, yn cael eu niweidio yn ddiangen yn ystod gwrthdaro arfog. Mae bywydau’n cael eu dinistrio yn y tymor byr a'r tymor hir, mewn ffyrdd corfforol ac eraill. Mae pobl yn dychryn wrth glywed am y fath erchyllterau sy’n medru digwydd, a hynny’n ddi-gosb ac yn barhaus. Yn aml, y gyfraith sy’n ysgwyddo’r bai am hyn. Fodd bynnag, nid mater o fod uwchlaw’r gyfraith yw hyn. Rhoi’r gyfraith ar waith yw’r broblem. Golyga hyn cael y rhai sy’n brwydro a'u harweinwyr, i barchu egwyddorion dynol sylfaenol, a dilyn yr amryfal reolau sy'n bodoli i ddiogelu pobol gyffredin, gan gynnwys menywod a phlant. Er mwyn gwneud hyn, maent yn fodd bynnag, yn gorfod bod yn gyfarwydd â’r rheolau, a dyma le mae rôl ar gyfer addysg a hyfforddiant."
Mae’r Athro Linton hefyd yn egluro bod gan y gymuned ryngwladol ac asiantaethau rhyngwladol megis y Cenhedloedd Unedig rôl hanfodol i'w chwarae. "Mae’r broblem gweithredu ar y lefel hon yn deillio o nifer o achosion, fel gwleidyddiaeth fyd-eang, amharodrwydd i gynhyrfu cynghreiriaid a 'ymyrryd', ac amharodrwydd i dderbyn cyfrifoldeb a 'gwneud rhywbeth'. Mae yna hefyd, mae'n rhaid dweud, amheuon ynghylch pa mor bell y gall y gymuned ryngwladol fynd, yn gyfreithiol wrth gymryd camau i wrthwynebu erchylltra."
Wrth sôn am y digwyddiad, dywedodd: "Rydym ni yn Ysgol y Gyfraith wir yn gwerthfawrogi'r cyfle i gydweithio gydag Amnest Rhyngwladol wrth estyn allan at gymunedau yn y gogledd. Mae'r gweithdy hwn yn nodi cyfnod newydd o ymgysylltu rhwng Ysgol y Gyfraith a’r gymuned leol ar faterion dyngarol. Ein bwriad yw datblygu rhaglen o ymgysylltu â myfyrwyr a'r cyhoedd ar faterion rhyngwladol, gan gyfrannu at y gymuned fywiog y rhanbarth sy’n ymgymryd â materion byd-eang."
Mae’r gweithdy’n addas i unrhyw un sy’n ymddiddori mewn materion dyngarol a’r heriau sydd ynghlwm ag amddiffyn pobl fregus yn ystod gwrthdaro arfog, ac mae’n rhoi cyfle i gyfranogwyr drafod gydag arbenigwyr a phobl o anian debyg.
Mae’r gweithdy’n costio £15.00 ond mae rhai prisiau gostyngol ar gael. Ewch i http://www.bangor.ac.uk/news/full-event.php.cy?nid=8275&tnid=8276 i gael rhagor o wybodaeth am y gweithdy, yn cynnwys y rhaglen a gwybodaeth am gofrestru.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mehefin 2012