Prifysgol Bangor yn Ymweld â Chymdeithas Fancio Uzbekistan
Ar yr 17eg o Hydref, ymwelodd Prifysgol Bangor â Chymdeithas Fancio Uzbekistan yn ei phrif swyddfa hynod yn Tashkent. Bu Prifysgol Bangor yn cydweithio yn Uzbekistan ers tro byd mewn partneriaeth lwyddiannus iawn dros ddegawd sy'n caniatáu i fyfyrwyr astudio rhaglenni israddedig Prifysgol Bangor yn MDIS Tashkent (Sefydliad Datblygu Rheolaeth Singapore). Bu rhaglenni Prifysgol Bangor o eiddo'r Ysgol Fusnes a gyflwynir yn Tashkent a hefyd yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig yn fwy diweddar yn boblogaidd iawn yn Uzbekistan. Roedd yr ymweliad yn cyd-daro â diwrnod graddio dros 300 o fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn MDIS Tashkent.
Sefydlwyd Cymdeithas Fancio Uzbekistan gan y diweddar Arlywydd Karimov i weithio'n agos gyda llywodraeth a banc canolog Uzbekistan i ddatblygu a diwygio system fancio'r wlad. Mae'r ymweliad yn cydnabod rôl hirsefydlog Prifysgol Bangor o ran darparu addysg mewn bancio a chyllid yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol dros ganrif. Ar hyn o bryd mae Prifysgol Bangor yn darparu addysg i fyfyrwyr o bob cwr o'r byd ac mae ganddi gytundebau ffurfiol â naw o gymdeithasau bancio cenedlaethol yn y Deyrnas Unedig, Affrica, y Caribî, Ewrop, y Dwyrain Canol ac Asia.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2019