Prifysgol Bangor yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2012
Mae Prifysgol Bangor yn edrych ymlaen at Eisteddfod brysur arall eto eleni. Mae staff y Brifysgol wedi darparu wythnos o weithgareddau ar y stondin sy’n adlewyrchu’r gweithgaredd, yr ymchwil a’r dysgu cyfrwng Gymraeg sy’n digwydd yn y Brifysgol.
“Bwriad ein gweithgareddau yw adlewyrchu’r ddarpariaeth sydd gennym. Fel y sefydliad, rydym yn cynnig y nifer fwyaf o gyrsiau a modiwlau addysg uwch drwy’r Gymraeg, ac yn addysgu’r nifer fwyar o fyfyrwyr drwy’r Gymraeg,” esbonia Mr Wyn Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor efo cyfrifoldeb dros y Gymraeg.
Bydd digwyddiadau ar stondin y Brifysgol yn cynnwys sialensau cerddorol, lawnsiad llyfr, perfformiad byw gan Ynyr Llwyd a’r band Helyntion Jos y Ficar, aduniad a darlith am decstio yn y Gymraeg….a llawer llawer mwy!
Ond nid yn unig ar stondin y Brifysgol mae staff y Brifysgol a’r hwyl i’w gael.
Fel un o brif noddwyr Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod, mae’r Brifysgol yn cymryd rôl flaenllaw yno. A dweud y gwir, aelod o staff Prifysgol Bangor, Dr Robyn Wheldon Williams sy’n trefnu ac yn cydlynu gweithgareddau’r Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg - yn ogystal â chyflwyno’r tîm Fflach Bang a’r ffrwydriaid ffantastig ddwywaith y dydd!
Gan gynnig gweithdai creu llysnafedd a chreu siocled, a cyfle i dynnu hearn o greision yd, bydd digon i ddiddanu!
“Drwy adloniant a chwarae, a thipyn o waith diddorol, caiff plant Cymru, ac ambell i riant neu oedolyn, gyfle i ymwneud â thipyn o wyddoniaeth, technoleg a mathemateg - heb yn wybod iddynt bron!” meddai Dr Robyn Wheldon Williams.
“Mae’r Eisteddfod a’r Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn gyfle gwych i gyfleu’r ystod eang sydd i wyddoniaeth a’r ffordd yr ydym yn ei defnyddio yn ein bywydau bob dydd,“ meddai.
Mae gwaith a chyfraniad Dr Robyn Wheldon Williams wrth drefnu cynnwys y Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg ers Medi 2007 wedi ei noddi gan Brifysgol Bangor. Mae wedi bod yn cynorthwyo ac yn cynnal y Sioeau Fflach Bang ers 2005.
Bydd gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru, sy’n gyfrifol am gydlynu holl gyrsiau Cymraeg y gogledd, bresenoldeb llawn ym Maes D. Mewn cydweithrediad â dysgwyr yr ardal, mae rhaglen helaeth o weithgareddau wedi ei threfnu, felly cofiwch alw heibio i weld beth sydd ymlaen yno. Mae’r Ganolfan hefyd yn rhan o Brifysgol Bangor.
Mwy o wybodaeth am y digwyddiadau unigol:
Cystadleuaeth Pwy ’di Pwy? Cyfle i ennill Ipod
Cylchgrawn BARN yn 50 oed (Dydd Mawrth, Awst 7)
Lansio Llyfryddiaeth Llafar Gwlad (Dydd Mawrth, Awst 7)
Mae Pawb yn Cyfrif (Dydd Mawrth, Awst 7)
Tecstio yn y Gymraeg (Dydd Gwener, Awst 10)
Cyfle i ddysgu mwy am ymchwil newydd am yr awdures Kate Roberts (Dydd Gwener, Awst 10)
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2012