Prifysgol Bangor yng Nghynghrair y Byd
Mae Prifysgol Bangor wedi cael ei rhoi ymysg y 100 uchaf o brifysgolion yn y byd mewn tabl newydd, a gyhoeddwyd gan y cylchgrawn Times Higher, yn rhestru'r prifysgolion mwyaf rhyngwladol eu golygon yn fyd-eang.
Mae'r tabl yn rhestru prifysgolion rhyngwladol sydd fwyaf byd-eang yn eu ffordd o feddwl a gweithredu. Gosodwyd Prifysgol Bangor yn safle 90 yn y byd yn y tabl hwn. Hi yw'r unig brifysgol Gymreig i ddod i'r 100 uchaf.
Mae'r tabl yn adlewyrchu natur fyd-eang y brifysgol o ran ei henw da a'i hymchwil a'i hapêl fel lle i ddod i astudio a gweithio iddo i fyfyrwyr a staff rhyngwladol. Seiliwyd hyn ar niferoedd staff a myfyrwyr rhyngwladol sydd ym Mhrifysgol Bangor ac ar lefel yr ymchwil a wneir mewn cydweithrediad â phartneriaid rhyngwladol.
Meddai Oliver Turnbull, Dirprwy Is-ganghellor: "Mae myfyrwyr yn dod i Fangor oherwydd ein proffil rhyngwladol. Mae'r Brifysgol yn denu myfyrwyr o bob rhan o'r byd, caiff ein staff eu recriwtio'n rhyngwladol ac mae ein partneriaethau a'n cydweithio ym maes ymchwil yn wirioneddol fyd-eang."
Mewn byd lle mae prifysgolion yn cystadlu i recriwtio’r myfyrwyr gorau a hefyd yr academyddion gorau i addysgu ac i ymchwilio ynddynt, mae enw da Bangor fel prifysgol ryngwladol yn cael ei gadarnhau drwy ei chynnwys yn y tabl hwn.
Meddai’r Athro John G Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor: “Mae Prifysgol Bangor yn dod yn wirioneddol amlwg, yn genedlaethol a rhyngwladol, fel cyrchfan ddeniadol i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig, a hefyd fel gweithle i rai o ymchwilwyr a darlithwyr gorau’r byd.”
"Mae denu'r goreuon i Fangor yn rhoi addysg ac ymchwil o safon uchel iawn ac yn gwneud cyfraniad gwerthfawr yn rhanbarthol a thu hwnt," ychwanegodd.
Mae'r safle hwn yn y 100 uchaf yn dystiolaeth bellach o gynnydd Prifysgol Bangor yn genedlaethol a rhyngwladol. Mae'n dilyn y cadarnhad o lwyddiant gweithgaredd ymchwil y brifysgol yng nghanlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 a gasglodd bod mwy na thri chwarter o ymchwil Bangor naill ai gyda’r orau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol.
Yn ogystal, fe wnaeth Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2014 roi Prifysgol Bangor ymysg y deg prifysgol draddodiadol uchaf ym Mhrydain, a'r uchaf un yng Nghymru, o ran boddhad myfyrwyr. Hefyd gosodwyd y brifysgol ymysg y 50 prifysgol uchaf ym Mhrydain yn Good University Guide 2015 y Times a'r Sunday Times.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ionawr 2015