Prifysgol Bangor yw’r brifysgol fwyaf rhyngwladol yng Nghymru
Mae Prifysgol Bangor wedi cael ei rhestru ymhlith y 200 o brifysgolion mwyaf rhyngwladol ledled y byd ac fel y brifysgol fwyaf rhyngwladol yng Nghymru mewn tabl a gyhoeddwyd heddiw (14 Ionawr, 2016).
Caiff y tabl o'r prifysgolion mwyaf rhyngwladol ei lunio ar sail data rhestr safleoedd prifysgolion y byd y Times Higher Education. Daw’r Brifysgol ymhlith y 350 o brifysgolion uchaf yn y byd.
Mae’r ffaith bod Prifysgol Bangor yn safle 107 yn nhabl y prifysgolion mwyaf rhyngwladol eu golygon ledled y byd yn cadarnhau cenhadaeth strategol y Brifysgol i fod yn brifysgol ryngwladol ar gyfer y rhanbarth.
Wrth groesawu'r newyddion am enw da cynyddol y Brifysgol yn rhyngwladol, dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro John G Hughes:
“Mae gweithgareddau’r Brifysgol yn hawlio sylw ledled y byd. Rydym yn darparu profiad unigryw i'n myfyrwyr rhyngwladol ynghyd â chynnig cyfleoedd astudio dramor ar gyfer ein myfyrwyr o’r Deyrnas Unedig. Rydym yn cynyddu ein partneriaethau astudio ac ymchwil gyda phrifysgolion ledled y byd. Ein gweledigaeth yw bod yn Brifysgol flaenllaw gydag enw da yn rhyngwladol am addysgu ac ymchwil, gan hyrwyddo ac allforio galluoedd a gwerthoedd y Brifysgol a’r rhanbarth.”
Cynnwys y brifysgol ymhlith prifysgolion mwyaf rhyngwladol y byd yw'r canlyniad diweddaraf o blith nifer o dablau cynghrair ac arolygon sy'n adlewyrchu’n dda ar hanes hir ac enw da'r Brifysgol o ran rhagoriaeth academaidd, addysgu a gofal myfyrwyr rhagorol.
Mae Prifysgol Bangor yn ymddangos yn uwch na sawl prifysgolion nodedig yn fyd-eang, sef Harvard, Princeton a Stanford.
Mae Prifysgol Bangor yn y 7fed safle ym Mhrydain yn ôl WhatUni Student Choice Awards (Ebrill 2015) ac yn parhau i fod yn y safle uchaf yng Nghymru ac ymhlith y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig (o blith prifysgolion gorau’r Deyrnas Unedig nad ydynt yn arbenigo, sef y prifysgolion traddodiadol sydd yn cynnig amrediad eang o bynciau) yn ôl yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol blynyddol (2015).
Ceir dolen at ganlyniadau llawn rhestr safleoedd prifysgolion y byd y Times Higher Education yn https://www.timeshighereducation.com/features/200-most-international-universities-world-2016
Dyddiad cyhoeddi: 14 Ionawr 2016