Prifysgol gynaliadwy o'r radd flaenaf
Mae Prifysgol Bangor wedi ennill 'Anrhydedd Dosbarth Cyntaf' am ei chryfderau o ran cynaliadwyedd gan People & Planet, y rhwydwaith mwyaf i fyfyrwyr yn y DU sy'n ymgyrchu dros gyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol. Dim ond 29 o'r 154 o brifysgolion yn y DU sy'n cael eu rhoi yn y categori hwn.
Daw hyn ar ôl i Brifysgol Bangor ennill yr wythfed safle drwy'r byd yn gynharach eleni am ei hymrwymiad i gynaliadwyedd, yn ôl tabl cynghrair rhyngwladol o sefydliadau sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd.
Mae'r brifysgol yn un o bedair prifysgol yn y DU sy'n ymddangos yn y 10 uchaf o'r UI Green Metric, sef tabl cynghrair o brifysgolion gwyrddaf y byd.
Mae'r tabl diweddaraf hwn yn gweld y brifysgol yn codi naw lle yn y tabl, ac yn ennill ei sgôr uchaf erioed. Caiff ei hasesu ar ystod eang o feini prawf cynaliadwyedd amgylcheddol, cymdeithasol ac ariannol.
Mae cynaliadwyedd yn hollbwysig i Brifysgol Bangor, ac mae wedi'i ymgorffori yng nghynllun strategol y brifysgol. Mae gan y brifysgol ymrwymiad hir a chadarn i wella agweddau amgylcheddol, cymdeithasol, moesegol, diwylliannol ac ariannol ei holl weithrediadau.
Meddai Dr Einir Young, Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd Bangor:
“Mae hyn yn dystiolaeth bellach ein bod yn gwneud cynnydd ac yn tanlinellu ein hymrwymiad i gynaliadwyedd fel prifysgol. Rydym yn gwrando ar ein myfyrwyr. Yn yr arolwg eleni, roedd 92% ohonynt eisiau i ni ymgorffori cynaliadwyedd yn yr hyn a wnawn a'i hyrwyddo. Byddwn yn parhau i weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod egwyddorion cynaliadwyedd a'r defnydd ymarferol ohonynt yn llywio ein haddysgu, dysgu, ymchwil, arloesi ac ymwneud â'r cyhoedd gan gyfrannu at Amcanion Lles Cymru ac Amcanion Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.
Mae calendr ein campws ar gyfer y flwyddyn i ddod yn llawn o weithgareddau dan arweiniad myfyrwyr a gweithgareddau sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr ar y campws ac yn estyn allan i'r gymuned.”
Dywedodd yr Athro Graham Upton, Is-ganghellor Dros Dro Prifysgol Bangor:
“Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a gwella ein hamgylchedd, ac mae ein hymrwymiad i gynaliadwyedd yn golygu meddwl hefyd am effeithiau ehangach ein gweithgareddau ar gymdeithas, yr economi a diwylliant popeth a wnawn, gan geisio eu gwella'n gyson.
“Nid yn unig yr ydym wedi gwneud cynnydd da yn y ffordd yr ydym yn rheoli ein heffaith amgylcheddol drwy ein system rheoli amgylcheddol achrededig ISO4001:2015, ond mae ein haddysgu a'n hymchwil yn helpu i gyflwyno gwybodaeth i gynulleidfa lawer ehangach, yn enwedig o ran newid yn yr hinsawdd sydd, fel yr ydym wedi ei ddatgan, mewn argyfwng.”
Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2019