Prifysgol wyrddaf Cymru'n ymddangos mewn tabl cynghrair byd-eang
Mae Prifysgol Bangor wedi cael ei gosod yn y 18fed safle yn y byd am ei hymroddiad i'r 'agenda werdd', yn ôl tabl cynghrair byd-eang.
Mae'r tabl, a luniwyd gan Universitas Indonesia (UI), yn cymharu ymdrechion prifysgolion ym maes cynaliadwyedd a rheoli eu sefydliadau mewn ffordd sy'n gwarchod yr amgylchedd. Daeth Prifysgol Bangor yn bumed ymysg prifysgolion gwledydd Prydain yn y 'tabl cynghrair', a hi oedd yr unig brifysgol Gymreig a gyflwynodd ddata i'w hystyried. Mae canlyniadau 2012 yn cynnwys prifysgolion o'r Unol Daleithiau, Japan, Ewrop, Chile, De Affrica, Palestina, China, Fiji, Hong Kong a Mecsico.
Meddai’r Is-Ganghellor, Yr Athro John Hughes: "Mae gennym falchder eithriadol yn ein hamgylchedd, yn y gymuned a'r rhanbarth o gwmpas Prifysgol Bangor, ac rydym yn benderfynol o'u gwarchod a'u cyfoethogi. Am y ddwy flynedd ddiwethaf mae ein llwyddiannau a'n cynnydd amgylcheddol wedi rhoi i ni “Anrhydedd Dosbarth Cyntaf" yng “Nghynghrair Werdd” genedlaethol y prifysgolion a llwyddodd y Brifysgol i gyrraedd safon uchaf Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd, sy'n gynllun pwysig a ddatblygwyd yn benodol i sefydliadau yng Nghymru. Mae'r 'Tabl Cynghrair' hwn yn dangos yn glir ein bod fel Prifysgol yn cymryd ein cyfrifoldebau amgylcheddol yn hollol o ddifri."
Yn ôl y trefnwyr: "Roedd yn amlwg nad oedd y meini prawf presennol a oedd yn cael eu defnyddio i bennu safle prifysgolion yn rhoi clod i'r rhai a oedd yn gwneud ymdrechion i leihau eu hôl troed garbon a thrwy hynny helpu i ymladd yn erbyn newid hinsawdd byd-eang. Rydym yn ymwybodol bod nifer o brifysgolion amlycaf y byd, er enghraifft, Harvard, Chicago, Copenhagen wedi bod yn cymryd camau i reoli a gwella eu cynaliadwyedd."
"Diben y tabl hwn yw rhoi canlyniad arolwg ar-lein yn ymwneud â chyflwr presennol a pholisïau'n gysylltiedig â'r Campws Gwyrdd a Chynaliadwyedd mewn Prifysgolion ar hyd a lled y byd. Trwy dynnu sylw arweinwyr prifysgolion a'u budd-ddeiliaid, disgwylir y rhoddir mwy o sylw i ymladd yn erbyn newid hinsawdd byd-eang, arbed ynni a dŵr, ailgylchu gwastraff, a chludiant gwyrdd. Rydym yn credu y dylid rhoi amlygrwydd i'r prifysgolion hynny sy'n arwain yn hyn o beth ac felly rydym wedi penderfynu dechrau arni drwy ddarparu'r gynghrair hon."
Mae'r wybodaeth a ddarperir gan brifysgolion wedi'i threfnu dan chwe phrif gategori. Dyma'r categorïau a'u pwysoliadau: Ystadegau Gwyrdd (15%), Ynni a Newid Hinsawdd (21%), Rheoli Gwastraff (18%), Defnyddio Dŵr (10%), Cludiant (18%)ac Addysg(18%).
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ionawr 2013