Prifysgol yn cefnogi Pythefnos Masnach Deg 2014
Mae Pythefnos Masnach Deg yn cynnig cyfle i fyfyrwyr staff a'r gymuned i ddathlu effaith gadarnhaol Masnach Deg.
Mae Grŵp Cynaliadwyedd y Brifysgol wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau: noson bêl-droed Masnach Deg, cystadleuaeth Pobi, noson caws a gwin, cwis masnach deg a Te Parti’r Hetiwr Hurt. Bydd gwestai arbennig yn y Brifysgol am 19.00 Mawrth 25 Chwefror. Bydd Juliet Arku-Mensah o Ghana sy'n gweithio efo menter bananas Masnach Deg yn Ghana yn trafod ei gwaith. Hefyd bydd sgwrs am brosiect Asha yn Bangladesh.
Meddai Dr Einir Young, Pennaeth Datblygiad Cynaliadwy, ar ran y Grŵp:
“Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i Fasnach Deg, mae gennym statws Masnach Deg a Pholisi Masnach Deg sy'n ymrwymo i sicrhau bod nwyddau Masnach Deg ar gael i'w prynu yn holl siopau ac ardaloedd arlwyo’r campws ac i ehangu argaeledd cynhyrchion Masnach Deg lle mae’n bosib.
“Mae prynu Masnach Deg yn un o’r dewisiadau llai annod y gallwn ei gymryd fel unigolion. Mae’n gyrru neges bwysig i fusnesau nad ydym yn fodlon ddioddef annhegwch; nad ydym eisio i bobol na’r amgylchedd cael eu trin yn wael dim ond er mwyn i ni allu prynu nwyddau rhad. Ymunwch â Phrifysgol Bangor wrth wneud dewis masnach deg ble bynnag y bo modd er lles gwledydd sy'n datblygu ar draws y byd.”
Dyddiad cyhoeddi: 25 Chwefror 2014